Lansiad Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi

Trosolwg

Pryd: 14/09/2018

Amser: 06:00 pm - 07:00 pm

Lleoliad: Academi Hywel Teifi

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Adeilad Talbot, Parc Singleton Abertawe, Abertawe, Cymru SA2 8PP

Gwefan: http://www.honno.co.uk

E-bost: danfonwch e-bost

Enw Cyswllt: Carol Jenkins

Ffôn: 07900520073

Disgrifiad

Un o brif amcanion gwasg Honno yw meithrin llenorion benywaidd Cymru a rhoi cyfle iddynt weld eu gwaith mewn print. Rhydd hyn gyfle i ddatblygu talentau newydd ond hefyd i geisio ail-ddarganfod awduron y mae eu gwaith wedi bod allan o brint ers amser. Gwneir hyn trwy'r cyfresi Honno Classics a Chlasuron Honno er mwyn cyflwyno gweithiau'r awduron benywaidd hynny i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi yw'r nawfed gyfrol i’w chyhoeddi yng nghyfres Clasuron Honno.

Mae'n nofel anghonfensiynol gan Elena Puw Morgan am helyntion teulu Romani matriarchaidd.

Teisen a llymaid a sgwrs i ddilyn.

Croeso cynnes iawn i bawb.