Gwneuthurwr Dan Sylw: Stephen R Hughes // Featured Maker: Stephen Hughes

Trosolwg

Pryd: 08/07/2017 - 21/10/2017

Amser: 10:00 am - 05:00 pm

Lleoliad: Oriel Myrddin

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Church Lane, Carmarthen Caerfyrddin , Sirgaerfyrddin, Cymru SA31 1LH

Gwefan: http://www.orielmyrddingallery.co.uk/

E-bost: danfonwch e-bost

Enw Cyswllt: Kathryn Campbell

Ffôn: 01267222775

Disgrifiad

Mae gwaith Stephen yn ystyried potensial dulliau annisgwyl ac anghyfarwydd i greu gwaith celf gwreiddiol ar gyfer sgarffiau moethus cyfoes a phrint ffasiwn.
Yn aml defnyddir dulliau sy’n gyfarwydd o ran arferion stiwdio celf gain i greu amrywiaeth o ffabrigau haniaethol. Mae ei ddyluniadau unigryw yn cael eu creu â llaw ac wedyn yn cael eu paentio a’u printio’n ddigidol ar wlanau a sidanau yn y DU. Mae’r ffabrig wedi’i brintio sy’n llawn marciau mynegiannol ar wahanol raddfeydd yn ceisio manteisio ar y gorgyffwrdd rhwng celfyddyd fawr a ffasiwn masnachol wrth ei wisgo. Mae ei gasgliad ‘Imbalance’ yn edrych ar bedwar syniad dylunio allweddol sydd hefyd yn adlewyrchu diddordeb personol mewn diwylliant cymdeithasol a gwleidyddol sy’n datblygu.
Mae Stephen yn byw ac yn gweithio yn Ne-orllewin Cymru.
Bydd y gwaith ar werth. Drwy brynu gwaith celf, rydych yn cefnogi arlunydd/artist unigol. Rydych hefyd yn helpu Oriel Myrddin i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol.
Mae Collectorplan (cynllun prynu di-log) ar gael.