Gruffydd Wyn

Trosolwg

Pryd: 13/04/2019

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Ffordd Deiniol Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: http://tickets.pontio.co.uk/Online/19Gruff

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 38 28 28

Disgrifiad

Dewch i ymuno â’r llanc o Fôn, Gruffydd Wyn, am noson o gerddoriaeth glasurol hynod boblogaidd, a gyflwynir gyda steil lleisiol gwych!

Mae Gruffydd yn ganwr yn y maes Clasurol, sydd wedi bod yn canu ers pan oedd yn blentyn ifanc ac mae wedi ymroi’n ddiflino i wireddu ei freuddwyd o ddod yn berfformiwr lleisiol o’r safon ryngwladol uchaf un.
Yn ddiweddar cafodd Gruffydd, sy’n dychwelyd i Pontio ar ôl perfformio mewn Cyngerdd Dathlu ym Medi 2018, lwyddiant fel un a gyrhaeddodd rownd derfynol y sioe dalentau nodedig ‘Britain’s Got Talent’, lle derbyniodd ‘Golden Buzzer’ Amanda Holden. Yn ystod y gyfres cafodd ganmoliaeth eang am ei lais nerthol a’i berfformiadau proffesiynol. Ymysg sylwadau’r beirniaid cafwyd ‘Epic, phenomenal and outrageously good’ gyda Simon Cowell yn ei alw ‘The musical version of Rocky’.
Dyma sioe na ddylid ei cholli’n sicr!