Dathlu Dawn Dilys Elwyn-Edwards | Celebrating Dilys Elwyn-Edwards

Trosolwg

Pryd: 01/03/2019

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Ffordd Deiniol Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: http://tickets.pontio.co.uk/Online/19Dilys

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 38 28 28

Disgrifiad

Cyngerdd gyda'r soprano Elin Manahan Thomas, y Prifardd a Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a Chôr Siambr Prifysgol Bangor
Mae’n bleser gennym roi lle amlwg ar ddydd Gŵyl Dewi i un o gyfansoddwyr enwocaf ei chyfnod ac uchaf ei pharch ym myd y gân Gymraeg - Dilys Elwyn-Edwards - a hynny ar gynffon blwyddyn pryd y byddai wedi dathlu ei phen-blwydd yn gant oed.
Wedi ei geni yn Nolgellau, fe astudiodd y grefft o gyfansoddi gyda’r cyfansoddwr Seisnig Herbert Howells cyn treulio y rhan fwyaf o’i hoes yng Nghaernarfon, ar lannau’r Fenai, lle cynhyrchodd gasgliad bychan o gyfansoddiadau lleisiol cain.
Heno, cawn gyfle i glywed detholiad o’r caneuon hyn yn cael eu perfformio gan y soprano Elin Manahan Thomas, sy'n cynnwys Caneuon Gwynedd a Chaneuon y Tri Aderyn. Maent oll yn osodiadau o gerddi gan feirdd mwya’n cenedl, yn eu plith R. Williams Parry, T. Gwynn Jones, Dic Jones, Gwyn Thomas a Saunders Lewis.
Yn ystod y noson cawn ddarlleniadau gan ein Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, ynghyd â cherdd a chân wedi eu comisiynu’n arbennig gan Ifor ap Glyn a’r cyfansoddwr Geraint Lewis i nodi’r achlysur.