Côr Siambr Cymru

Trosolwg

Pryd: 07/04/2019

Amser: 03:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Ffordd Deiniol Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: http://tickets.pontio.co.uk/Online/19Siambr

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 38 28 28

Disgrifiad

Yn ystod eu taith gyntaf erioed, mae Côr Siambr Cymru yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth brydferth, ramantus o Gymru ac Ynysoedd Prydain. Gan ddechrau gydag emyn gwefreiddiol i natur gan Edward Elgar, O Wild West Wind, mae’r Côr yn cloi gyda thawelwch torcalonnus Requiem Howells. Yn ogystal, byddant yn perfformio Hymn to the Creator of Light, darn ffrwydrol gan John Rutter, darnau gan yr hoff gyfansoddwyr Cymreig, William Mathias a Dilys Elwyn-Edwards, a dau ddarn gan y cyfansoddwr corawl ifanc, Gareth Treseder, a fydd yn cael eu perfformio am y tro cyntaf.
Mae hwn yn gôr – a chyngerdd – na ddylid ei golli gan ei fod yn cynnwys rhai o gantorion gorau Cymru, dan arweiniad Tomos Watkins sy’n prysur ddod i amlygrwydd fel arweinydd.