Cabaret Pontio: Siân James

Trosolwg

Pryd: 12/04/2019

Amser: 08:00 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Ffordd Deiniol Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: http://tickets.pontio.co.uk/Online/19James

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 38 28 28

Disgrifiad

Siân James yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac un o'n prif arloeswyr ym myd cerddoriaeth draddodiadol. Cana’r delyn Geltaidd, mae’n bianydd o fri, ac yn gyfansoddwr. Mae ei dawn fel perfformwraig wedi mynd â hi i theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd ac fe’i perchir fel un o’n prif lysgenhadon cerddorol.
Mae’n enwog am ei gallu greddfol i gyfleu emosiwn dwfn yn ei chaneuon a hynny gyda didwylledd ac angerdd. Erbyn hyn, mae wedi rhyddhau deg albwm o’i gwaith, casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol sy'n cwmpasu ein hemosiynau dyfnaf, o gariad a chwerthin, i golled a’r byd ysbrydol.
Bydd yn cyflwyno casgliad o ganeuon ac ambell i gyfansoddiad offerynnol - caneuon o bob cyfnod dros y 30 mlynedd ddiwethaf o'i gyrfa, gan gynnwys rhai oddi ar ei halbwm diweddaraf gafodd ei rhyddhau yn 2018, Gosteg.