Uwch Ymchwilydd
Trosolwg
Dyma gyfle gwych i Uwch Ymchwilydd ymuno â'r tîm. Byddwch chi'n gyfrifol am ymchwilio i honiadau difrifol o droseddau bwyd trwy ddatblygu strategaethau achos gydag ystod o opsiynau tactegol, casglu...
Cyflogwr: Asiantaeth Safonau Bwyd
Cyflog: £33,128 - £41,410
Dyddiad Cau: 15/10/2018 (125 diwrnod)
Amser Cau: 05:00:00
Lleoliad
Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Tŷ Southgate, Wood Street Caerdydd, Caerdydd, Cymru CF10 1EWGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Mae gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) allu i orfodi'r gyfraith ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod dealltwriaeth o fygythiadau troseddau bwyd ac yr ymatebir iddynt yn y modd mwyaf effeithiol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Er mwyn cyflawni ei chenhadaeth, mae'r uned yn cychwyn ar raglen drawsnewid i greu ymateb cyflawn i droseddu o fewn cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang a allai niweidio buddiannau dinasyddion y DU.
Dyma gyfle gwych i Uwch Ymchwilydd ymuno â'r tîm. Byddwch chi'n gyfrifol am ymchwilio i honiadau difrifol o droseddau bwyd trwy ddatblygu strategaethau achos gydag ystod o opsiynau tactegol, casglu tystiolaeth, cyfweld â phobl dan amheuaeth a thystion, arwain chwiliadau eiddo a cheisio gorchmynion llys.
Byddwch chi'n goruchwylio ymchwilwyr eraill wrth reoli a datblygu eu llwyth achosion a rheoli staff yn uniongyrchol yn eu dyletswyddau ymchwiliol.
Byddwch chi'n gweithio'n agos â staff eraill yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd, yn enwedig y Tîm Datgelu er mwyn sicrhau bod yr holl rwymedigaethau CPIA yn cael eu bodloni a bod y Tîm Ariannol yn manteisio ar bob cyfle i roi stop ar droseddwyr bwyd rhag elwa’n ariannol.
Byddwch chi'n hyderus wrth gynrychioli'r NFCU i randdeiliaid mewnol ac allanol gan gynnwys cyrff gorfodi cyfraith eraill a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae Troseddau Bwyd yn deipoleg trosedd newydd yn y DU a thrwy eich dull arloesol, byddwch chi'n ceisio cael effaith wirioneddol, ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
Mae'n amser hynod gyffrous i ymuno â'r Uned. Byddwch chi'n cyfrannu at ddatblygu gallu gorfodi cyfraith o safon fyd-eang, proffesiynol ac arloesol a chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu bwyd y gallwn ymddiried ynddo i ddefnyddwyr.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*