Uwch Swyddog Cyswllt Rhanbarthol (Cymru)
Trosolwg
Dyma gyfle gwych i Uwch Swyddog Cyswllt Rhanbarthol ymuno â'r tîm. Chi fydd yn gyfrifol am adeiladu a chynnal perthnasau ystyrlon gyda phartneriaid gorfodi cyfraith rhanbarthol yn y sector...
Cyflogwr: Asiantaeth Safonau Bwyd
Cyflog: £33,128 - £41,410 | £36,057 - £44,440
Dyddiad Cau: 15/10/2018 (125 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
Caerdydd/Belfast/Birmingham/Caerefrog/Llundain/Gweithio Gartref, gyda’r gofyniad i deithio'n rheolaidd iawn ledled Cymru ac i swyddfeydd eraill yr Asiantaeth Safonau Bwyd o bryd i’w gilyddGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Mae gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) allu i orfodi'r gyfraith ac mae'n gyfrifol am sicrhau dealltwriaeth o fygythiadau troseddau bwyd ac yr ymatebir iddynt yn y modd mwyaf effeithiol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Er mwyn cyflawni ei chenhadaeth, mae'r uned yn cychwyn ar raglen drawsnewid i greu ymateb cyflawn i droseddu o fewn cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang a allai niweidio buddiannau dinasyddion y DU.
Dyma gyfle gwych i Uwch Swyddog Cyswllt Rhanbarthol ymuno â'r tîm. Chi fydd yn gyfrifol am adeiladu a chynnal perthnasau ystyrlon gyda phartneriaid gorfodi cyfraith rhanbarthol yn y sector cyhoeddus, cefnogi ymchwiliadau, cyflwyno'r NFCU mewn fforymau, hwyluso rhannu gwybodaeth a rhyngweithrededd a datblygu gallu lleol trwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth.
Byddwch chi'n gweithio'n agos gyda staff yr NFCU, ymchwilwyr, y Tîm Datgelu a'r tîm Ariannol i wireddu amcanion yr Uned.
Mae Troseddau Bwyd yn deipoleg trosedd newydd yn y DU a thrwy eich dull arloesol, byddwch chi'n ceisio cael effaith wirioneddol, ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
Mae Troseddau Bwyd yn deipoleg trosedd newydd yn y DU a thrwy eich dull arloesol, byddwch chi'n ceisio cael effaith wirioneddol, ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
Mae'n amser hynod gyffrous i ymuno â'r Uned. Byddwch chi'n cyfrannu at ddatblygu gallu gorfodi cyfraith o safon fyd-eang, proffesiynol ac arloesol a chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu bwyd y gallwn ymddiried ynddo i ddefnyddwyr.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Pecyn i Ymgeiswyr - Cymraeg (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Candidate Pack - English (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)