Cynorthwy-wyr Meithrin Achlysurol

Trosolwg

Mae'r Meithrinfa yn chwilio am weithwyr achlysurol i ymuno â’r tîm, sy’n wych gyda babanod a phlant ac sy’n gallu hwyluso a gofalu mewn amgylchedd o hwyl a gofal. Yn benodol rydym ni’n chwilio am...

Cyflogwr: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Cyflog: Graddfa 1

Dyddiad Cau: 31/12/2017 (43 diwrnod)

Amser Cau: 17:00:00

Lleoliad

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Campws Caerfyrddin Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, Cymru SA31 3EP

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Nia Maynard

Ffôn: 01267 676645

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Cynorthwy-wyr Meithrin Achlysurol

Campws Caerfyrddin

Graddfa 1

Meithrinfa ddydd a adeiladwyd yn bwrpasol yw Y Gamfa Wen. Fe'i ceir ar gampws Caerfyrddin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'r feithrinfa'n darparu amgylchedd diogel a chroesawgar lle caiff plant y gofal a'r sylw gorau posibl. Mae digon o le i chwarae yma, y tu mewn a'r tu allan, ynghyd ag offer o ansawdd uchel a staff cymwys iawn, a chyfuna’r holl bethau hyn i ddarparu profiad a fydd yn cyfoethogi'r plant.

Mae'r Meithrinfa yn chwilio am weithwyr achlysurol i ymuno â’r tîm, sy’n wych gyda babanod a phlant ac sy’n gallu hwyluso a gofalu mewn amgylchedd o hwyl a gofal. Yn benodol rydym ni’n chwilio am ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg. Bydd angen cymhwyster gofal plant a phrofiad, a rhaid bod yn hyblyg.

Canolbwynt swydd Cynorthwy-wyr Meithrin fydd darparu amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn, lle gofalir am blant mewn awyrgylch diogel a hapus gyda’u hanghenion unigol yn cael eu diwallu, a dulliau blaengar yn cael eu gweithredu er mwyn cyfoethogi datblygiad pob plentyn unigol o fewn y grŵp.

Mae’r swydd hon yn amodol ar archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwaith achlysurol cysylltwch â Rheolwr y Feithrinfa drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu uchod

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*