Cynorthwyydd Ymchwil
Trosolwg
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am Gynorthwyydd Ymchwil i weithio ar brosiect sy'n ymwneud â datblygu 'hỳb addysgeg iaith' a fydd yn rhoi llwyfan gyhoeddus i’w gwaith yn y maes hwn.
Cyflogwr: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Cyflog: £27,025 - £31,302 y flwyddyn (Gradd 5)
Dyddiad Cau: 03/03/2019 (9 diwrnod)
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad
Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, Rhodfa Colum Caerdydd, Caerdydd, Cymru CF10 3EUGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Ffôn: 029 2087 9777
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Cyflwyniad Fideo
Disgrifiad
Cynorthwyydd Ymchwil
Cyflog: £27,025 – £31,302 y flwyddyn (Gradd 5)
Rhif y swydd: 8191BR
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am Gynorthwyydd Ymchwil i weithio ar brosiect sy'n ymwneud â datblygu 'hỳb addysgeg iaith' a fydd yn rhoi llwyfan gyhoeddus i’w gwaith yn y maes hwn.
Mae'r swydd yn cynnwys cwblhau gwaith ymchwil a gwaith cefnogi a fydd yn tynnu ynghyd holl waith yr Ysgol ym maes addysgeg iaith. Bydd gofyn datblygu cynllun ar gyfer presenoldeb ar-lein yr hỳb ynghyd â rhaglen o weithgareddau ar gyfer cyfnod cyntaf ei fodolaeth.
Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos) am dymor penodol o 4 mis (1 Ebrill 2019 - 31 Gorffennaf 2019).
Noder: ni fyddwn yn apwyntio i'r swydd yma yn uwch na phwynt cyntaf Gradd 5.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*