Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Trosolwg

Bydd y sawl a benodir yn darparu cefnogaeth weinyddol i'r prosesau Gwirio Sgriptiau ac Adolygu Marcio i sicrhau bod modd cwblhau ceisiadau am wasanaethau ar ôl y canlyniadau yn amserol ac yn safonol.

Cyflogwr: CBAC

Cyflog: £18,291 - £19,134 yf

Dyddiad Cau: 24/01/2018 (92 diwrnod)

Amser Cau: 17:30:00

Lleoliad

CBAC 245 Rhodfa'r Gorllewin Caerdydd, Caerdydd, Cymru CF5 2YX

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol

Ffôn: 029 2026 5189

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Cynorthwy-ydd Gweinyddol

£18,291 - £19,134 yf

Bydd y sawl a benodir yn darparu cefnogaeth weinyddol i'r prosesau Gwirio Sgriptiau ac Adolygu Marcio i sicrhau bod modd cwblhau ceisiadau am wasanaethau ar ôl y canlyniadau yn amserol ac yn safonol. Mae gan y rôl gyfrifoldeb penodol dros reoli'r broses Mynediad at Sgriptiau (sganio sgriptiau).

Mae'r swydd hon hefyd yn cynnwys pacio, postio a pharatoi deunyddiau dosbarthu yn rhan o'r tîm Logisteg.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hynod ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau: 24 Ionawr 2018

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*