Cynorthwy-ydd Gweinyddol a Chyllid
Trosolwg
Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel y Gweinyddwr / Cymorth Ariannol / Codi Arian i Ymchwil Cancer Cymru (YCC) gan adrodd i'r Gweinyddwr Ariannol. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i redeg...
Cyflogwr: Ymchwil Cancer Cymru
Cyflog: £17,000 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 15/01/2018 (101 diwrnod)
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad
Ymchwil Cancer Cymru Ysbyty Felindre Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, Cymru CF14 2TLGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Ffôn: 029 2031 6976
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Cynorthwy-ydd Gweinyddol a Chyllid
£17,000 y flwyddyn (pro rata yn seiliedig ar 37.5 awr yr wythnos)
30 neu 37.5 oriau’r wythnos dros 5 diwrnod
Ymchwil Canser Cymru, Caerdydd gyda teithio achlyusrol
Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi gwaith Ymchwil Cancer Cymru a chynorthwyo ein cefnogwyr gyda’u hymholiadau mewn modd defnyddiol a chyfeillgar, gan gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae Ymchwil Canser Cymru yn sicrhau bod yr holl arian a godir yn cael ei wario ym Mhrifysgolion ac Ysbytai Cymru wrth gefnogi prosiectau ymchwil canser o ansawdd.
Rydyn ni'n freintiedig iawn, gan fod pob cyfle gennym i gwrdd â grwpiau cymunedol, sefydliadau ac unigolion bob dydd sy'n rhoi eu hamser, eu hymdrech a'u harian am eu bod yn credu yn ein gwaith a'r gwahaniaeth rydym yn ei wneud. Mae cefnogi Ymchwil Canser Cymru wedi golygu ein bod ni'n gwella triniaeth canser, gan gael diagnosis canser yn gynharach a lle bynnag y bo'n bosibl atal canser yn gyfan gwbl. Mae hyn i gyd oherwydd cefnogaeth hael pobl Cymru.
Pwrpas y swydd:
Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel y Gweinyddwr / Cymorth Ariannol / Codi Arian i Ymchwil Cancer Cymru (YCC) gan adrodd i'r Gweinyddwr Ariannol. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i redeg elusen yn effeithiol, sy'n cynnwys cefnogaeth i'r timau gweinyddol, codi arian, gwyddonol a masnachol.
Mae ein cefnogwyr yn hanfodol i lwyddiant yr elusen ac yn ein galluogi ni i ariannu ymchwil o'r radd flaenaf yng Nghymru.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo ein cefnogwyr gyda'u hymholiadau mewn modd defnyddiol a chyfeillgar, gan gyfathrebu yn Saesneg ac yn Gymraeg. Bydd gan deiliad y swydd ystod eang o gyfrifoldebau a fydd angen menter a hyblygrwydd sylweddol, gan sicrhau gweithio bob amser mewn modd proffesiynol ac amserol.
Manylion Ychwanegol
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Swydd Ddisgrifiad - Cymraeg (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Job Description - English (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)