Ympryd dros newidiadau cynllunio er lles cymunedau Cymraeg

30/06/2014

Categori: Iaith, Iechyd

Mae cefnogwyr y Gymraeg wedi dechrau ympryd 24 awr heddiw (Dydd Llun, Mehefin 30) gan fynnu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r gyfraith cynllunio er lles yr iaith ar lefel gymunedol.

 

Daw’r newyddion wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil Cynllunio drafft nad yw’n cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg. Hynny er gwaethaf casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad - a argymhellodd newidiadau i'r gyfraith gynllunio er lles yr iaith. Yn ei ddatganiad yn gynharach yn y mis am ei bolisi iaith, ni chafwyd ymrwymiad gan y Prif Weinidog i wella’r Bil Cynllunio er mwyn cynnwys cymalau am y Gymraeg.

 

 

Wrth esbonio ei rhesymau am ymprydio, dywedodd yr awdures Manon Steffan Ros sy’n byw yn Nhywyn: “Yn syml iawn, does dim hawl yng Nghymru i wrthod caniatâd cynllunio ar sail iaith yn unig. Y neges ydi nad ydi'r iaith yn ddigon pwysig i'w ystyried pan fydd cwmni mawr eisiau codi 300 o dai ar gyrion eich pentre'. Dwi'n anghytuno efo hynny.”

 

Mae’r ymprydwyr yn galw am nifer o newidiadau a fyddai’n gosod anghenion lleol fel man cychwyn y system yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, yn sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael ei asesu, ac yn rhoi grym cyfreithiol i gynghorwyr dderbyn neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ar y Gymraeg.

 

Ychwanegodd Cen Llwyd, llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n fodlon ymprydio dros newidiadau i’r gyfundrefn gynllunio sy’n hanfodol i hyfywedd ein hiaith a’n cymunedau. Ry’n ni eisiau Bil Cynllunio sy’n rhoi buddiannau cymunedau’n gyntaf er mwyn taclo tlodi yn ogystal â phroblemau sy’n wynebu’r iaith a’r amgylchedd.  Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i ddangos eu bod nhw o ddifrif am ddiogelu a chryfhau cymunedau Cymraeg a sicrhau bod pobl yn cael byw yn Gymraeg.  Mae’n hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei gwneud yn ystyriaeth berthnasol yn y maes cynllunio er mwyn iddi ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.”

 

Mae nifer y cymunedau sydd â mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi cwympo’n ddifrifol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011. Mae Cymdeithas yr Iaith wrthi'n cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn trafod ei chynigion cynllunio. Bydd y cyfarfod nesaf yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar ddydd Gwener, Gorffennaf 4ydd.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net