Ymchwilio i fywyd ar ôl Brexit i'r diwydiant amaeth

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio gwaith ffermwyr yng Nghymru fel rhan o astudiaeth led-led yr Undeb Ewropeaidd i ba effeithiol y mae’r diwydiant amaeth yn gallu ymateb i newid.

Mae'r gwaith gan ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn canolbwyntio ar hanesion bywyd ffermwyr unigol yng Nghymru sy'n gweithio yn y sectorau cig oen a chig eidion.

 

Bydd yr astudiaethau'n cyfrannu at astudiaeth ehangach yr Undeb yr Ewropeaidd a fydd yn helpu gwneuthurwyr polisi a'r sector amaeth i fod yn fwy cynaliadwy ac i ddatblygu systemau ffermio a all ymdopi'n well ag ansicrwydd.

 

Bydd hyn o bwys cynyddol i ffermio yng Ngwledydd Prydain ar ôl Brexit, a bydd yn cyfrannu at ffurf polisi amaethyddol newydd Prydain, lle bydd datblygu gwytnwch y sector amaeth yn nod pwysig.

 

Er mwyn ymdrin â'r heriau hyn a heriau eraill yn y dyfodol, bydd y grŵp o wyddonwyr o’r UE sy'n gweithio ar y cyd fel rhan o'r prosiect SURE-Farm yn archwilio ffyrdd y gall llunwyr polisi a busnesau amaethyddol edrych y tu hwnt i strategaethau traddodiadol.

 

Yn ogystal â Brexit, mae ffermwyr yng Ngwledydd Prydain yn wynebu ansicrwydd megis gostyngiad sylweddol neu golli cymorthdaliadau, mynediad i gynhyrchion diogelu planhigion, costau llafur, newid cysylltiadau masnachol ac ansicrwydd prisiau cynhyrchwyr a chyfraddau cyfnewid.

 

Bydd y rhain ar ben y pwysau sydd eisoes yn bodoli o ymateb i newid dewisiadau defnyddwyr, canfyddiadau'r cyhoedd am amaethyddiaeth a thafoli perfformiad busnes fferm gyda chynaliadwyedd amgylcheddol, ochr yn ochr â risgiau amgylcheddol parhaus megis digwyddiadau tywydd eithafol.

 

Prifysgol Aberystwyth a Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw yw partneriaid y prosiect , sy'n cynnwys 11 rhanbarth astudiaeth achos ledled Ewrop.

 

Dan arweiniad yr Athro Peter Midmore o Ysgol Fusnes Aberystwyth, mae’r tîm yn  Aberystwyth hefyd yn astudio gwytnwch ffermydd âr yn nwyrain Lloegr.

 

Ymdeimlad o gyfrifoldeb

 

Dywedodd yr Athro Midmore: “Mae ein hastudiaeth gyntaf yng Nghymru wedi pwysleisio pwysigrwydd canolog pobl, eu hangerdd, eu hiechyd, eu hymdeimlad o gyfrifoldeb a’u gweledigaeth hirdymor o oroesiad ffermydd teuluol a'r diwylliant sy'n mynd gyda nhw.”

 

"Lle bynnag y bydd polisi amaethyddol Llywodraeth Prydain yn y dyfodol, bydd y cyfraniadau pwysicaf i wydnwch yn dod o'r sector amaethyddol ei hun. Arbrofi ffermwyr, arloesi a chyfnewid gwybodaeth rhwng ffermwr yw sail hyfywedd ariannol y fferm”, ychwanegodd.