Tedi bêr Cymraeg cyntaf erioed!

05/12/2012

Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae’r tedi bêr Cymraeg cyntaf erioed sy’n siarad gyda llais plentyn wedi cyrraedd y siopau.

 

Cwmni tegannau addysgiadol BabogBaby o Galway yng ngweriniaeth Iwerddon sydd wedi datblygu’r tegan wedi iddyn nhw lunio tedis Gaeleg a Gwyddeleg eu hiaith.

 

Mae’r arth yn costio £25.00 ac ar gael yn siop Inc. Mae’n siarad gyda llasi Mali Thomas o’r Bont-faen ac mae wedi’i dargedu at blant ifanc rhwng chwe mis a phum mlwydd oed.

 

Fel ei gefndryd Gaeleg a Gwyddeleg gall yr arth Gymraeg gyfri i 10 ac enwi siapiau a lliwiau. Mae ganddo eirfa eang - 33 gair i fod yn fanwl gywir!

 

Mae’r tedi Gwyddeleg, a lansiwyd dim ond ddwy flynedd yn ôl, bellach ar gael mewn mwy na 140 o siopau ym mhob rhan o Iwerddon.

 

Eisoes mae 35,000 o’r eirth bychain wedi eu gwerthu, tua 85% o’r rhain yn Iwerddon. Fodd bynna, mae’r arth hefyd yn cael ei werthu dramor dros y we. Mae’n arbennig o boblogaidd yn siopau anrhegion Gwyddelig yr Unol Daliaethau.

 

Tedi bêr Cymraeg cyntaf erioed