Rhifyn Diweddaraf O'r Pedwar Gwynt

Mae awduron a sylwebwyr Cymru’n ymateb yn uniongyrchol i bryderon am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd yn nhrydydd rhifyn cylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt.

Mae’r pynciau’n amrywio o wleidyddiaeth iaith i bolisïau addysg y Cynulliad a’r cynrychioliad o Gymru ym myd chwaraeon. 

 

Ac mae’r dadansoddiadau yn graff a di-flewyn-ar-dafod. Mae’r iaith Gymraeg yn ffarwelio â ffrindiau, yn ôl y cyfreithiwr Emyr Lewis, wrth i Brydain ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Ac yng Nghymru, mae’r cynlluniau i ‘achub yr iaith’ fel petaent yn ffafrio gweledigaeth o’r Gymraeg fel ‘iaith amgueddfa’ yn hytrach na iaith gymunedol, fyw. Dyna farn yr arbenigwr ar gynllunio ieithyddol, Richard Glyn Roberts. 

 

Mae’r cae chwarae – trosiadol a llythrennol – hefyd yn thema yn y rhifyn newydd hwn. 

A yw polisïau addysg y Cynulliad – a’n hagwedd at addysg yn gyffredinol – yn sicrhau maes chwarae gwastad i’n plant, neu ai cystadlu am y llwy bren fyddan nhw mewn blynyddoedd i ddod? Ac, er gwaetha’ llwyddiant diweddar y tîm pêl-droed cenedlaethol, mae yna bryderon cynyddol am statws Cymru fel ‘cenedl bêl-droed annibynnol’, yn wyneb ail-dwf Prydeindod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Nid darlun syml a chysurus a gyflwynir – ond fe ddylai’r drafodaeth fod o ddiddordeb ysol ac uniongyrchol i bob un sydd am geisio deall y cyd-destun presennol yn well.

 

Oes yna achubiaeth i’w chael o hyd mewn creu? Mewn cyfweliad arbennig, mae’r cyfansoddwr a’r awdur Gruff Rhys yn pwysleisio gwerth creadigrwydd fel arf gwleidyddol yn yr oes ôl-Brexit.

 

Dilyn trywydd yr awdur mawr W G Sebald i ogledd Cymru wna Mererid Puw Davies yn ei hysgrif hi, 'Yfed te efo Austerlitz', ac mae Caryl Lewis yn gofyn a yw tranc y gwenyn – ac anhapusrwydd brenhines yr haid – yn symbol o bethau mwy ... 

 

Mynd at galon ein cyflwr presennol

 

Yn ôl Cyd-olygydd O’r Pedwar Gwynt, Sioned Puw Rowlands, "Mae’r rhifyn newydd hwn yn mynd i galon trafodaethau am ein cyflwr presennol yng Nghymru, a hynny mewn cyfnod o newid dybryd. Mae llenyddiaeth â chyfraniad cwbl hanfodol i'w wneud wrth ein cynorthwyo i ystyried ac ailgyfeirio. Ein braint ni fel cylchgrawn yw cael cyhoeddi rhai o feddylwyr a sylwebwyr craffaf y Gymraeg – ond mae’n ddyletswydd arnom i wneud hynny hefyd." 

 

Dywedodd Owen Martell, Cyd-olygydd O’r Pedwar Gwynt, "Mae rhoi llwyfan i bobl ystyried a thrafod syniadau amdanyn nhw eu hunain a’u lle yn y byd yn hanfodol fel mater o egwyddor gyffredinol. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, mae’n gwbl angenrheidiol. Mae’r wasg yn Llundain – a’r sefydliad gwleidyddol cysylltiedig – yn cyflwyno delwedd o Brydain sydd yn gwadu bodolaeth Cymru fel economi, fel diwylliant ac fel syniad. Mae’n rhaid i ni wrthwynebu hynny, sut bynnag y gallwn.’ "

 

Yn ogystal â’r deunydd uchod, mae trydydd rhifyn O’r Pedwar Gwynt yn cynnwys cyfweliad ecsgliwsif gyda enfant terriblellenyddiaeth Ewrop, Karl Ove Knausgård, ac ymateb i'w weithiau hunangofiannol ef gan enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, Guto Dafydd, a wnaeth brofiad go iawn yn sail i'w nofel ei hun.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru