Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

Y Llewod yn colli am y tro cyntaf

18/06/2013
Categori: Chwaraeon, Newyddion

Y Llewod yn colli am y tro cyntaf


Cafodd Shane Williams ychydig iawn o gyfle i greu argraff wrth ddychwelyd i dîm y Llewod

ACT Brumbies 14-12 Llewod Prydain ac Iwerddon
 
Roedd sawl un wedi darogan mai hon fyddai gêm anodda'r Llewod heblaw'r gemau prawf yn erbyn Awstralia, ac felly y profodd hi.
 
Bu beirniadaeth o benderfyniad Warren Gatland i alw Shane Williams at y garfan, ond y dewin bach oedd yr agosaf at sgorio cais i'r Llewod yn y cyfnod cynnar. Cafodd Shane ei daclo llathen yn brin o'r llinell gais wedi llai na dau funud o chwarae.
 
Roedd yr asgellwr yn ymddangos yng nghrys y Llewod am y deuddegfed tro yn ei yrfa, ond roedd un oedd yn gwisgo'r crys am y tro cyntaf yn cael bedydd tân ar yr asgell arall.
 
Cafodd Christian Wade ei alw i'r garfan oherwydd anafiadau, ...

darllenwch mwy

Angen dyfodol sicr i Tafwyl

13/06/2013
Categori: Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Angen dyfodol sicr i Tafwyl


Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw yn rhoi grant o £20,000 i Tafwyl eleni

Mae nifer o Gymry Cymraeg adnabyddus wedi llofnodi llythyr at gyngor Caerdydd yn gofyn iddynt ail ystyried toriadau i wasanaethau Cymraeg.
 
Mae cynnwys y llythyr yn mynegi pryder bod cyllideb menter iaith y brifddinas wedi ei chwtogi a dyfodol gŵyl Tafwyl ddim yn sicr.
 
Fe ddywedodd y cyngor ddechrau'r flwyddyn ei fod yn ystyried torri'r cymhorthdal yr oedden nhw wedi bod yn rhoi i'r ŵyl Gymraeg. Yr angen i wneud arbedion oedd y rheswm medden nhw.
 
Ond fe benderfynodd Llywodraeth Cymru rhoi grant o £20,000 i Tafwyl eleni.
 
Atal ffyniant iaith

Noda'r llythyr bod y Gymraeg wedi ennill tir yng Nghaerdydd a bod twf addysg Gymraeg yn yr ardal yn brawf o hy ...

darllenwch mwy

Ymchwil Annibynnol: Gwerth Economaidd...

13/06/2013
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes

£1 o arian i S4C yn golygu bron i £2 i Economi Cymru
 
Mae S4C wedi datgelu bod astudiaeth economaidd wedi dangos bod pob punt y mae’r sianel yn ei wario ar gynnwys yn creu bron i ddwy bunt o werth ychwanegol i economi Cymru.
 
Yn ôl cwmni Arad sydd wedi cwblhau’r gwaith ymchwil, mae pob £1 o wariant S4C yn y diwydiannau creadigol yn creu effaith economaidd o £1.95 ar y diwydiannau hynny yng Nghymru.
 
Roedd y gwaith ymchwil wedi’i gomisiynu gan S4C fel rhan o’r broses o fesur llwyddiant ac effeithlonrwydd y sianel.
 
Yn ôl Prif Weithredwr S4C, mae’r ymchwil yn dangos bod S4C yn chwarae rôl bw ...

darllenwch mwy

Wythnos Ddigidol Caerdydd

13/06/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Iaith

Wythnos Ddigidol Caerdydd
24 - 27 Mehefin, 2013Sgyrsiau, hyfforddiant a digwyddiadau am ddim ar gyfer y diwydiannau creadigol a digidolCynhelir gan Ganolfan Mileniwm Cymru
 
Bydd Wythnos Ddigidol Caerdydd yn dwyn ynghyd y talent gorau yn y sectorau cyhoeddus, preifat, addysgol a hyfforddiant i archwilio arloesedd, cyfleoedd a syniadau newydd ar draws yr holl sbectrwm digidol. Caiff y digwyddiad ei arwain gan nifer o bartneriaid, yn cynnwys BBC Cymru Wales, S4C, Cyngor Caerdydd, Creative Skillset Cymru, BAFTA Cymru, Academi Cyfryngau Cymru a Llywodraeth Cymru.
 
Bydd uchafbwyntiau’r wythnos yn cynnwys Diwrnod Dyfodol Digidol, a fydd yn edrych ar sut beth fydd darlledu dig ...

darllenwch mwy