Osian Rhys Jones yn ennill y Gadair

Osian Rhys Jones, yn wreiddiol o ardal Y Ffôr, Pwllheli, ond sy’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Eleni, cyflwynwyd y Gadair am awdl ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, heb fod yn hwy na 250 o linellau o dan y teitl Arwr neu Arwres. 

 

Yr Arwr oedd teitl yr awdl ganrif yn ôl hefyd, yn Eisteddfod y Gadair Ddu ym Mhenbedw, lle daeth gwaith Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, i’r brig, ac yntau wedi’i ladd ar faes y gad wythnosau cyn y seremoni.

 

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Huw Meirion Edwards, Emyr Lewis a Peredur Lynch, a draddododd y feirniadaeth o’r llwyfan.

 

Cafwyd deuddeg ymgais am y Gadair eleni, gyda phump o’r rhain yn dod i’r brig mewn cystadleuaeth safonol iawn. Wrth draddodi’r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd, “Mae ’na bump yn y ras, ond oes ’na deilyngdod? Wel, os buo ’na rioed deilyngdod fe’i cafwyd yma ym Mȏn eleni. Mae tri o’r cystadleuwyr – Ail Don, Merch y Drycinoedd a Gari – yn llwyr deilyngu’r gadair, ac oedd, mi oedd hi’n gystadleuaeth glós. Yn ’y marn i, Merch y Drycinoedd sy’n dod i’r brig. Ond mae Emyr a Huw yn ffafrio Gari. Mi rydw i, wrth gwrs, yn derbyn dyfarniad mwyafrifol y ddau ac yn cyhoeddi’n llawen felly mai ffugenw’r bardd buddugol ydi Gari.

“Mae awdl Gari yn un seicolegol ddwys. Mae hi’n agor ym mis Tachwedd hefo dyn ifanc ar fin ei fwrw ei hun oddi ar bont reilffordd i lwybr trên. Ond yna mae o’n ymatal. Ar ȏl yr agoriad dramatig mi gawn ni’n harwain drwy fisoedd tywyll y gaeaf hyd at ddyfodiad mis Mai ac mae’r awdl yn gronicl o fywyd y prif gymeriad dros gyfnod o saith mis. Rydan ni yng nghwmni unigolyn y mae bywyd yn drech nag o, un sy’n chwilio am ystyr i’w ddyddiau. Mae ’na ymdeimlad llethol o gaethiwed yma wrth i’r gŵr ifanc ymgodymu hefo disgwyliadau cymdeithasol y mae’n o’n waelodol sinigaidd yn eu cylch. Erbyn diwedd yr awdl mae’n hi’n fis Mai. Mae’r bardd yn ôl ar y bont reilffordd. Mae o wedi llwyddo i fagu adenydd i ddianc rhag ei amgylchiadau.

 

Ond mae’r diweddglo yn amwys. Ai magu adenydd i ddianc rhag ei iselder wnaeth o, ynteu magu’r hyder i neidio oddi ar y bont? Dyna’r dirgelwch sy’n cloi’r awdl.”

 

Mae Osian Rhys Jones yn gynhyrchydd a golygydd digidol o Gaerdydd. Fe’i magwyd ger Y Ffôr, Pwllheli a bu’n ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr a Choleg Meirion Dwyfor yn y dre. Astudiodd am radd mewn Cymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn treulio rhai blynyddoedd yn gweithio yn Adran Datblygiadau Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Symudodd i Gaerdydd yn 2010 gan weithio i Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yn dechrau swydd newydd gyda Phrifysgol Caerdydd yn fuan ar ôl yr Eisteddfod eleni.

 

Y Talwrn

 

Mae’n aelod o dîm Y Glêr ar gyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, tîm a oedd yn bencampwyr y gyfres yn 2012. Yn yr un flwyddyn, Y Glêr oedd y tîm cyntaf i ateb Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru, gan gyfansoddi cant o gerddi ar y cyd dros gyfnod o 24 awr. Yn 2011 roedd Osian yn un o griw a sefydlodd nosweithiau Bragdy’r Beirdd yn y brifddinas ac mae’r digwyddiadau barddol poblogaidd hyn yn dal i gael eu cynnal yn rheolaidd yng Nghaerdydd. Yn ogystal â threfnu nosweithiau, mae Osian yn cymryd rhan a pherfformio mewn nosweithiau llenyddol trwy Gymru ben baladr. Yn 2012/13 roedd yn un o bedwar a deithiodd gyda’r sioe farddol a cherddorol, ‘Cnoi Draenogod’. Enillodd Dlws Coffa D. Gwyn Evans (Y Gymdeithas Gerdd Dafod) ddwywaith a derbyniodd Dlws Coffa Cledwyn am delyneg orau cyfres Talwrn y Beirdd yn 2011.

 

Bydd rhai sy’n awyddus clywed a oes gan y bardd gysylltiad â Môn. Ni chânt eu siomi o wybod y bu’r gadair ddiwethaf yn y teulu yn eiddo i Anne, ei Nain – ac roedd hithau yn hanu o Frynteg, Benllech.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn adnewyddu Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, a chyda’r gwaith bellach wedi dod i ben, yr Awdurdod sydd wedi rhoi’r Gadair eleni. Ym mlwyddyn canmlwyddiant y Gadair Ddu, mae’r gadair erbyn hyn wedi’i hadfer i’w gogoniant gwreiddiol, ac i’w gweld unwaith eto yng nghartref y bardd ifanc yn Nhrawsfynydd.

 

Ac mae dolen bwysig arall rhwng Hedd Wyn a Chadair Eisteddfod Ynys Môn eleni, gan fod Cadair 2017 wedi’i chreu’n rhannol o ynn a derw a lifiwyd o goed a dyfodd ar dir Yr Ysgwrn, coed a fyddai wedi bod yn tyfu yno yn nyddiau Hedd Wyn ei hun. Y crefftwr ifanc, Rhodri Owen, sy’n egluro: “Mae’r syniad o ail-eni a symud ymlaen yn ganolog i gysyniad y Gadair eleni. Ond mae’r ddolen gyda’r gorffennol hefyd yn bwysig, ac felly fe fûm yn ystyried siapiau’r offer ac arfau a fyddai’n cael eu defnyddio’n ddyddiol mewn ardal wledig ganrif yn ôl, gan eu datblygu a’u mewnosod yn y cynllun.

 

“Mae’r ddwy goes ôl yn codi tua’r ‘lloer’ ac ar siâp pladuriaid, a gwaelod y cefn ar siâp dau haearn marcio, a fyddai wedi’u defnyddio i farcio’r tywyrch cyn torri’r mawn ym myd amaeth. Mae’r ddau siâp cefn wrth gefn yn creu un haearn donni, a

fyddai’n torri’r dywarchen ar ôl ei marcio, yn pwyntio tua’r is-fyd, gan gynrychioli tywyllwch a marwolaeth, tra bo pen y Gadair a’r Nod Cyfrin yn cynrychioli goleuni a bywyd newydd.

“Rydw i hefyd wedi cadw mewn cof y ffaith mai ym Môn y cynhelir yr Eisteddfod eleni, ac wrth gwrs, mae’r cyswllt Celtaidd felly’n amlwg, a’r syniad Celtaidd o ail-eni a symud o’r tywyllwch i’r goleuni sydd i’w weld yng nghynllun y Gadair. Mae egin bywyd yn codi wrth i’r düwch ildio i oleuni a’r gobaith o fywyd newydd, heddychlon mewn oes o ansicrwydd gwleidyddol byd-eang ac argyfwng hunaniaethol y Cymry.

“Roedd hi’n bwysig i’r Parc ac i minnau fod y Gadair yn cyfleu ei neges ei hun, ac rwy’n gobeithio fy mod wedi gwireddu hyn, gan roi’r pwyslais ar gamu ymlaen yn hyderus fel cenedl o Gymry i ddyfodol newydd, gwell a heddychlon.”

 

Gwnaethpwyd y Gadair â llaw yng ngweithdy Rhodri Owen yn Ysbyty Ifan.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru