Mwy o ysgoloriaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

12/03/2015

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Bydd mwy o gyrsiau nac erioed mewn sawl maes yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth William Salesbury sy’n werth £5000 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.

 

Cafodd yr ysgoloriaeth ei chynnig am y tro cyntaf y llynedd gan Ymddiriedolaeth Cronfa William Salesbury, er mwyn ysgogi darpar fyfyrwyr i fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg prifysgolion Cymru.

 

Mae dros 60 cwrs gradd ar gael yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg ac felly’n gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth eleni a bydd gan ymgeiswyr tan 20 Mawrth i gyflwyno cais.

 

Mae amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys Cymdeithaseg, Newyddiaduraeth, Ffrangeg a Hanes yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth eleni yn ogystal â graddau cyfun gydag Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg.

 

Megan Mai Cynllo Lewis, cyn ddisgybl o Ysgol Gyfun Bro Myrddin dderbyniodd yr arian y llynedd. Mae hi bellach yn dilyn cwrs gradd Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth:

 

‘‘Mae'n anodd credu bod bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i mi gyflwyno cais am Ysgoloriaeth William Salesbury. Credaf fod cymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol trwy’r ysgoloriaethau yn hwyluso profiad yn y brifysgol ac mi fuaswn yn annog unrhywun sydd eisiau dilyn cwrs perthnasol i ymgeisio. Felly ewch ati, mae'r broses yn syml a phob lwc i chi gyd!’’

 

Mae Ysgoloriaeth William Salesbury yn ychwanegol i’r ysgoloriaethau israddedig a gynigir gan y Coleg Cymraeg.

 

Bydd myfyrwyr sy’n dymuno astudio cyrsiau ym meysydd gwyddoniaeth, daearyddiaeth, y gyfraith, chwaraeon, busnes, meddygaeth a mwy yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Colego £1,500 cyn 8 Mai 2015.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net