Mudiad iaith yn anfon cŵyn swyddogol yn erbyn Gweinidog y Gymraeg

13/06/2018

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae methiant Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg, Eluned Morgan i ddatgan ei bod yn briod â rhywun sy'n bartner mewn meddygfa wrth benderfynu eithrio'r rhan fwyaf o'r proffesiwn o reoliadau iaith wedi arwain at gŵyn gan fudiad iaith.

Mewn cwyn at y Prif Weinidog a Chomisiynydd Safonau'r Cynulliad, mae mudiad iaith yn nodi y dylai Eluned Morgan - sy'n cynrychioli'r Canolbarth a'r Gorllewin yn y Cynulliad - fod wedi datgan diddordeb a gadael i Weinidog arall wneud y penderfyniad am y dyletswyddau iaith ym maes Iechyd, sydd wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar, oherwydd natur gwaith ei gŵr. Mae cod y gweinidogion yn datgan bod "rhaid i'r Gweinidogion sicrhau na fydd gwrthdaro, nac y gellid yn rhesymol gael yr argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat - yn ariannol neu fel arall." 

 

Mae hi wedi cofrestru busnes ei phartner ar gofrestr buddiannau'r Cynulliad, ond mae rheolau sefydlog y Cynulliad hefyd yn datgan bod rhaid i Aelod Cynulliad ddatgan ar lafar yn nhrafodaethau'r Cynulliad os oes buddiant ganddyn nhw. Er bod sawl trafodaeth wedi bod ar reoliadau'r Gymraeg ym maes iechyd, gyda gofal sylfaenol yn un o'r pynciau llosg, ar sawl achlysur mewn cyfarfodydd pwyllgor a sesiynau llawn y Senedd, ni wnaeth Eluned Morgan ddatgan y buddiant amlwg yn y mater hwn un waith. 

 

Yn eu cwyn at y Prif Weinidog, meddai ymgyrchwyr iaith: "...roedd y penderfyniad i eithrio'r rhan helaeth o feddygon teulu o Safonau'r Gymraeg yn hynod ddadleuol, a bu'n destun dadlau, cyn, ac yn ystod, y trafodaethau cyhoeddus ar y rheoliadau ac yn ystod y trafodaethau yn y Cynulliad. Gwnaethpwyd penderfyniadau gan y Gweinidog ar y materion dadleuol hyn er ei bod yn ymwybodol bod ganddi fuddiant clir yn y penderfyniadau hynny. 

 

"Credwn felly fod y Gweinidog wedi, a'i bod yn parhau i, ymwneud â materion lle mae gwrthdaro buddiannau ganddi, ac, er mwyn cydymffurfio â'r cod, dylai'r mater fod wedi cael ei gyfeirio at Weinidog arall i wneud penderfyniadau arnynt."

 

"Credwn fod y mater hwn yn ddifrifol: pe bai'r Gweinidog wedi cydymffurfio â'r cod, gallai penderfyniadau fod wedi bod yn wahanol, a hynny ar faterion sy'n effeithio ar hawliau iaith llawer iawn o bobl bob dydd." 

 

Testun pryder

 

Wrth esbonio'r cwynion, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae hyn yn destun pryder mawr i ni. Mae rheolau ar waith i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, er mwyn gwarchod pawb sydd ynghlwm â'r mater. Mae'n ymddangos fel bod Gweinidog y Gymraeg wedi anwybyddu'r rheolau hyn, sy'n fater difrifol iawn, ac mae'n rhaid cael ymchwiliad i'r mater. Mae'r cod a'r rheolau hyn yn bodoli am reswm, ac mae'n edrych fel eu bod wedi cael eu torri gan wleidydd profiadol. Mae'r Gweinidog wrthi'n ceisio creu deddf a fydd yn gwanhau hawliau iaith pobl mewn nifer o feysydd eraill hefyd, gan wneud hyn yn groes i farn pobl Cymru sydd am estyn a chryfhau ein hawliau."

 

"Yn achos y dyletswyddau iaith ym maes iechyd, fe welodd Eluned Morgan yn dda i eithrio'r rhan helaeth o feddygon teulu o unrhyw ddyletswyddau iaith, gan fethu sicrhau hawliau pobol Cymru i gael trafod ein hiechyd ni ein hunain, gyda meddygon, drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan Eluned Morgan gwestiynau anodd i'w hateb ac mae hyn oll yn codi cwestiwn am yr holl reoliadau sydd wedi'u gosod yn ddiweddar ym maes iechyd."