Pobl yn llai tebyg o drydar yn y Gymraeg

29/01/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Caernarfon: Tref gyda chanran uchel o Gymry Cymraeg

Canfuwyd mai defnyddwyr Trydar Cymraeg ei hiaith sydd yn lleiaf tebyg o drydar yn y Gymraeg o gymharu gyda defnyddwyr Facebook yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru.  

 

Yn ol yr adroddiad, mae 1 ym mhob 8 o siaradwyr Cymraeg yn anfon negeseuon testun at ffrind yn Gymraeg bob amser neu’n bennaf, ac mae 1 ym mhob 10 yn anfon e-bost yn Gymraeg bob amser neu’n bennaf. Mae 9 y cant o oedolion yn ysgrifennu yn Gymraeg bob amser neu’n bennaf ar Facebook a 6 y cant yn ysgrifennu yn Gymraeg bob amser neu’n bennaf ar Twitter.

 

Yn arwyddocaol, mae yna gwymp o 1% yn y nifer sy’n gweld eu hunain yn rhugl gyda bron i hanner (46 y cant) o’r holl siaradwyr Cymraeg (310,600) yn ystyried eu bod yn rhugl, a 22 y cant (148,900) yn gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg. Yn 2004-06 roedd 58 y cant (317,300) yn rhugl a 21 y cant (115,300) yn gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg.

 

Ymhlith y pwyntiau allweddol arall yr arolwg yw bod cynnydd bychan wedi bod ers 2006 o’r rheini sy’n 3 oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Nid yw’r ffigwr sy’n siarad Cymraeg bob dydd wedi newid ers yr arolwg diwethaf.

 

Mae ychydig dros hanner y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn siarad yr iaith bob dydd; mae 1 ym mhob 5 yn siarad yr iaith bob wythnos; llai na 1 ym mhob 4 yn siarad yr iaith yn llai aml na phob wythnos; mae 1 ym mhob 20 sy’n gallu siarad Cymraeg nad ydynt byth yn siarad yr iaith.

 

Mae 20 y cant o’r siaradwyr Cymraeg bob amser (neu bron bob amser) yn siarad Cymraeg gartref. Mae’r ganran yma yn cynyddu’n raddol gydag oedran.

 

Dywedodd 31 y cant o siaradwyr Cymraeg mai yn Gymraeg oedd eu sgwrs fwyaf diweddar gyda rhywun nad oedd yn perthyn i’r teulu. Dywedodd mwy na hanner (56 y cant) y siaradwyr Cymraeg rhugl mai yn Gymraeg oedd eu sgwrs fwyaf diweddar.

 

Mae cynnydd hefyd wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n adrodd bod eu cyflogwr yn gefnogol i’r defnydd o’r Gymraeg a hefyd yn nifer y rhai sydd wedi cael cynnig rhywbeth fel bathodyn i ddangos eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

 

Calonogol

 

Gan ymateb i'r Arolwg Defnydd Iaith a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith, "O ystyried ein bod yn byw mewn gwlad ddwyieithog, a'r anawsterau mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio byw yn Gymraeg, mae'n galonogol bod cyfran sylweddol o bobl sy'n rhugl yn y Gymraeg yn defnyddio'r Gymraeg bob amser neu'n bennaf ar gyfryngau cymdeithasol."

 

Dywedodd fod angen sicrhau fod pobl yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. "Mae'r ffigyrau yma'n cadarnhau bod angen i ragor o gyflogwyr fabwysiadu gweinyddiaeth fewnol gwbl Gymraeg er mwyn i bobl allu defnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith. Does dim lle i wanhau polisïau iaith, fel mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn bygwth wneud trwy apwyntio uwch-swyddogion di-Gymraeg."

 

Ychwanegodd, "Da oedd clywed Carwyn Jones yn ategu'r angen yna, rwan mae angen iddo gryfhau'r Safonau Iaith er mwyn sicrhau mai'r Gymraeg yw'r opsiwn di-ofyn wrth ddefnyddio gwasanaethau, a hwyluso'r ffordd i gyrff cyhoeddus weithio yn Gymraeg"

 

Gellir darllen yr Arolwg Defnydd Iaith yma

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net