Gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella

12/10/2017

Categori: Arian a Busnes, Hamdden, Newyddion

Mae gwasanaethau Cymraeg yn gwella, ac mae gan bobl hyder bod eu hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn dechrau gwreiddio. Dyna brif ganfyddiadau adroddiad a gyhoeddir gan Gomisiynydd y Gymraeg heddiw.

Ers mis Mawrth 2016 mae cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a pharciau cenedlaethol, wedi gorfod cyrraedd safonau penodol o ran y gwasanaeth Cymraeg maen nhw yn ei gynnig. Erbyn diwedd Mawrth 2017 roedd 78 o sefydliadau’n gweithredu’r safonau, gan gynnwys sefydliadau cyhoeddus cenedlaethol a’r gwasanaethau brys. 

 

Bu’r Comisiynydd yn holi siaradwyr Cymraeg a yw’r gwasanaethau Cymraeg maent yn eu derbyn gan sefydliadau cyhoeddus wedi gwella, gan ddod i’r casgliad bod gan bobl hyder fod pethau’n gwella a bod mwy’n ymwybodol bod ganddynt hawliau i ddefnyddio’r iaith. Daeth i’r casgliad hefyd bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg a chynnydd yn y gwasanaethau Cymraeg sy’n cael eu cynnig yn rhagweithiol.

 

Cafodd yr wybodaeth ei chasglu drwy gynnal arolygon ac astudiaethau, a holi siaradwyr Cymraeg am eu profiadau.

 

Ymysg yr ystadegau sydd yn yr adroddiad, mae’r canlynol:

 

  • 76% o’r farn fod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella, a dim ond 10% yn anghytuno â hynny yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg
  • Cyfarchiad Cymraeg neu ddwyieithog i 90% o alwadau ffôn (59% yn 2015-16)
  • Sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer chwarter y swyddi a hysbysebwyd (o’i gymharu â 16% yn 2015-16).

 

Calonogol

 

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae’n galonogol iawn gweld bod ymdrechion sefydliadau i gydymffurfio â safonau dros y deunaw mis diwethaf wedi bod yn gam pendant i’r cyfeiriad cywir o ran parchu a diwallu hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg.Mae nifer cynyddol yn cyrraedd y safon, a chydweithio da yn digwydd rhyngom ni a’r sefydliadau. Adeiladu ar hyn sydd ei angen nawr, fel bod cynnig gwasanaeth Cymraeg yn y ‘norm’ ym mhob sefydliad.”

 

Ychwanegodd Llefarydd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru dros y Gymraeg, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn (Ceredigion): “Mae swyddogion ac aelodau ymhob cyngor wedi gweithio’n ddyfal ac yn ddygn dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn sicrhau bod cynghorau yn cydymffurfio â’r safonau.

 

“Llwyddodd yr ymdrechion yma o ganlyniad i ddeialog agored ac adeiladol gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Bydd awdurdodau lleol yn edrych ymlaen at gydweithio â’r Comisiynydd mewn modd yr un mor agored yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod llywodraeth leol yn gallu chwarae rôl allweddol i gyflawni amcan Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

 

Er bod cynnydd pendant wedi ei adnabod, mae’r adroddiad hefyd yn casglu bod gwaith pellach i’w wneud o ran gwella ansawdd ac argaeledd gwasanaethau Cymraeg. Roedd hyn yn arbennig o wir yn y maes technoleg, a chyfryngau cymdeithasol yn benodol.

 

Man arall oedd angen gwelliant oedd y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau i hybu a hysbysebu gwasanaethau Cymraeg.

 

Cynnydd

 

Ychwanegodd Meri Huws: “Gan ein bod yn gweld cynnydd amlwg yn yr hyn sy’n cael ei gynnig, byddwn yn annog sefydliadau i fynd ati nawr i adeiladu ar hyn, a rhoi cynnig rhagweithiol i’w cwsmeriaid. Mae’n bwysig fod y gwasanaethau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn hawdd i’w defnyddio ac yn amlwg i’r cyhoedd. Byddwn yn mynd ati nawr i gynnal cyfres o weithdai dros gyfnod yr hydref i drafod sut y gall sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg yn effeithiol a rhoi cynnig rhagweithiol i’w cwsmeriaid.”

 

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal gweithdai ledled Cymru gyda’r sefydliadau perthnasol dros gyfnod yr hydref. Yn ystod yr un cyfnod, bydd 24 o grwpiau ffocws yn cael eu cynnal a gwaith monitro yn cael ei wneud mewn meysydd penodol, fydd yn bwydo i adroddiad y Comisiynydd ar gyfer 2017 – 2018. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru