Diffyg dwyieithrwydd yr Ardd Fotaneg yn destun pryder

22/04/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae mam i ddau o blant sy’n byw yng Sir Gaerfyrddin wedi beirniadu agwedd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne tuag at yr Iaith Gymraeg, gan alw arnynt i drafod y mater gyda hi.  

 

Mae Iola Wyn wedi’i ‘synnu’  a 'siomi' gyda anallu yr Ardd Fotaneg i gynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Roedd Iola Wyn sy’n byw yn San Clêr wedi tynnu sylw at ddiffyg arwyddion dwyieithog yr Ardd Fotaneg yr wythnos diwethaf trwy anfon neges drydar at gyfrif y Gerddi yn holi pam nad oedd yna arwydd dwyieithog i ddigwyddiad oedd yn cael ei gynnal  dros wyliau’r Pasg yn yr Ardd. 

 

Yn y neges Trydar, fe ofynnodd,  "Gyda 78,000 o siaradwyr cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, pam bod eich arwydd Pasg yn uniaith Saesneg?."

 

 

Cynulleidfa dros y ffin

 

Wrth ymateb i’r cwestiwn, dywedodd cynrychiolydd ar ran yr Ardd Fotaneg mewn ebost fod yr arwydd ar ochr y ffordd wedi’i anelu tuag at gynulleidfa ac ymwelwyr sy’n dod o Loegr.

 

Ac fe ychwanegodd, nad oedd yna sgop i roi llawer o eiriau gan fod pobl yn gyrru hyd at gyflymder o 80 milltir yr awr ar hyd yr A48. 

 

Ond ers hynny, mae Iola Wyn wedi canfod engrhaifftiau eraill, fel y mae hi’n gweld, fel diffygion darpariaeth iaith Gymraeg y Gerddi.  

 

"Mewn cyd-ddigwyddiad, mi ges i gylchlythyr llety gan yr Ardd, unwaith eto yn uniaith Saesneg a mi wnes i godi hynny hefo nhw hefyd. A’i hateb i hynny, 'ryden ni yn fwy na hapus i dynnu'ch enw oddi ar y rhestr os nad ydych yn hapus', sy’n ofnadwy"

 


(Mae'r arolwg barn yma wedi cau)



 

Polisi Iaith

 

O ganlyniad, fe wnaeth Iola Wyn gysylltu gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, fe ddywedodd,  "Dwi’n gwybod mai cynllun iaith gwirfoddol sydd gyda’r Ardd Fotaneg, dwi’n cwestiynu os mai cynllun iaith gwirfoddol sydd gyda nhw ar sail bod nhw yn cael arian cyhoeddus gan y Llywodraeth a Chyngor Sir Gâr achos mae yna lot o faterion i’w cwestiynu yn fan hyn."

 

Ers hynny, ac yn dilyn ymateb gan degau o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, mae eraill o Sir Gaerfyrddin wedi dangos engrheifftiau i Iola sy’n cyfeirio at y dalpiau mawr o’r wefan hefyd sy’n uniaith Saesneg, meddai, "Mae pobl wedi cysylltu  o bob cwr o Sir Gâr a hynny’n drawsdoriad o bobl yn gweld fod hynny’n gwbl warthus."

 

Mae’n teimlo nad oes ganddi ddewis ond tynnu’r sylw at ddiffygion darpariaeth Gymraeg y Sefydliad, meddai,   "Bydde ni fel rhywun sy’n byw yn Sir Gâr moyn y Gardd Fotaneg yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gwbl gyfartal, dwi ddim eisiau iddynt golli cwsmeriaid a dwi ddim isie nhw yn gael cyhoeddusrwydd gwael achos mae nhw’n atyniad yn Sir Gâr ond os nad ydyn nhw yn gallu parchu’r Iaith Gymraeg, felly does yna ddim ateb arall ond tynnu sylw ato fe."

 

Ychwanegodd Iola Wyn fod gan y Ardd Fotaneg ddyletswydd i sicrhau cyfartaledd,  "Mae’r ffaith bod nhw yn ardd fotaneg genedlaethol Cymru gyda’r enw yna, mae’r enw yna i fod yn fraint, dwi ddim yn credu y dylie nhw ddefnyddio’r enw yna genedlaethol Cymru os nad ydynt y trin i’r Iaith Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal."

 

Fe gysylltodd Lleol.Cymru gyda'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn holi am ymateb.