Gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn darganfod mwy am arferion mudo ystlumod

24/04/2019

Categori: Addysg, Amgylchedd, Newyddion

Gallai ystlumod sy'n mudo dros fil o filltiroedd o'r Baltig i Ynys Prydain, fod yn allweddol i ddatgelu sut mae mamaliaid sy'n mudo yn dod o hyd i'w ffordd, yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Bangor.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys tua 54 o ystlumod, gyda hanner ohonynt mewn grŵp rheolydd. Cafodd cwmpawd mewnol yr ystlumod yn y grŵp rheolydd ei ailosod yn ystod y machlud nesaf, er mwyn iddynt allu mynd ymlaen â'u taith.

Rydym yn gwybod mwy am sut mae adar ac ymlusgiaid a physgod yn dod o hyd i'w ffordd nag ydym am famaliaid fel morfilod neu gnwod, ond caiff un rhan o'r cwestiwn ei ateb yn rhifyn diweddaraf Current Biology.

 

Mae Dr Richard Holland o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, sydd hefyd wedi astudio'r dulliau a ddefnyddir gan adar i ddod o hyd i'w ffordd, wedi edrych ar y dulliau a ddefnyddir gan ystlumod lleiaf (soprano pipistrelle).

 

Mae'r ymchwil diweddaraf wedi darganfod bod yr ystlumod hyn yn defnyddio cyfeiriad yr haul yn machlud dros Fôr y Baltig i ail-osod eu cwmpawd magnetig mewnol, er mai creaduriaid y nos ydynt. Gan guddio pelydrau'r haul yn y lleoliad a dangos drychddelwedd i hanner yr ystlumod, rhyddhaodd y gwyddonwyr yr ystlumod o flwch rhyddhau arbennig a oedd yn olrhain eu holion traed wrth iddynt adael y cawell. Gan fod cyfeiriad eu hymadawiad yn adlewyrchu'r cyfeiriad hedfan, gwelodd y gwyddonwyr fod yr ystlumod a oedd wedi gweld drychddelwedd y machlud wedi ail-osod eu cwmpawd magnetig mewnol i gyd-fynd â'r wybodaeth honno, ac wedi dilyn y trywydd hwnnw ar eu taith. Yn hytrach na mynd tuag at Fôr y Baltig, fel gwnaeth yr ystlumod a welodd y machlud, aeth y gweddill tua'r dwyrain.

 

Ond nid yw pob ystlum yn defnyddio'r un system.  Roedd ymchwil blaenorol gan y tîm wedi dangos bod ystlumod dychwel, nad ydynt yn ymfudo'n bell, yn dibynnu ar eu gallu i weld plygiad polar yr haul i ail-osod eu cwmpawd magnetig mewnol.

 

Greddf ystlum

 

Ffactor arall a ddatgelwyd gan yr ymchwil yw nad yw ystlumod ifanc sy'n mudo am y tro cyntaf yn gwybod i ba gyfeiriad i hedfan iddo'nreddfol, sy'n golygu mai ymddygiad wedi ei ddysgu yw hwn. Mae hyn yn wahanol i adar, sy'n cael eu geni gyda'r wybodaeth am eu llwybr mudo.

 

Meddai Richard Holland: “Nid ydym yn gwybod fawr ddim am y dulliau a ddefnyddir gan famaliaid sy'n mudo, ond mae'n haws gweithio gydag ystlumod bach nag yw gyda mamaliaid mwy.   Gall astudio ystlumod fel 'model' roi gwell dealltwriaeth i ni o'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir gan famaliaid i ddod o hyd i'w ffordd dros bellteroedd mawr.”

 

Ychwanegodd: “Mae ystlumod eu hunain yn gwneud cyfraniad mor bwysig, mae nifer y pryfaid maent yn ei fwyta'n ddefnyddiol iawn i'r diwydiant ffermio, ac er nad oes modd rhoi gwerth union ar eu cyfraniad, amcangyfrifir ei fod werth tua $1.75 miliwn i'r economi.”