Gŵyl Fach y Fro yn dychwelyd am y bumed flwyddyn olynol

16/04/2019

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Iaith, Newyddion

Bydd Gŵyl Fach y Fro eleni yn dychwelyd am bumed flwyddyn yn olynol ac yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn Mehefin 15fed, ac mae Menter Bro Morgannwg wedi cyhoeddi line-up llawn Gŵyl Fach y Fro 2019.

Yn perfformio ar Brif Lwyfan Gŵyl Fach y Fro eleni bydd Meic Stevens a’r Band, The Gentle Good, Chroma, Bwncath, Bronwen Lewis, Canfas (grŵp o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg) a Dagrau Tân (band Ysgol Sant Baruc). Am y tro cyntaf eleni, bydd Sioe Cyw hefyd yn ymddangos ar y Prif Lwyfan i gynnig adloniant i’r plant lleiaf.

 

Mae’r Fenter hefyd yn falch i gyhoeddi bod Llwyfan Gymunedol newydd yn cael ei lansio yn rhan o’r ŵyl eleni – sydd wedi cael ei henwi yn dilyn ymgyrch gan ddisgyblion blwyddyn 6 Ysgol Sant Curig. Bydd ‘Glanfa Gwynfor’ yn cynnig mwy byth o gyfleoedd i blant a phobl i gymryd rhan yn yr ŵyl, gyda pherfformiadau gan gannoedd o ddisgyblion ysgolion lleol, plant o’r Cylchoedd Meithrin cyfagos yn ogystal â chorau cymunedol.

 

Cynnyrch a chrefftau Cymreig

 

Bydd stondinau cynnyrch a chrefftau Cymreig gan ddarparwyr lleol yn yr ŵyl yn oystal ag ardal chwarae, beiciau bybls, sgiliau syrcas, salon glitter, perfformiadau stryd, gweithdai a gweithgareddau amrywiol gan bartneriaid Cymraeg yr ardal gan gynnwys Llenyddiaeth Cymru, Dysgu Cymraeg y Fro, Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin ac Adran Chwaraeon yr Urdd.

 

Bydd Vintage Points Events Bar yn gweini amrywiaeth o wirodydd, gwinoedd, cwrw a seidr lleol, Handlebar Barista yn gweini diodydd poeth, a bydd bwyd wedi’i arlwyo gan The Queen Pepiada, Fablas, Grazing Shed, The Teifi Toastie a Puckin Poutine.

 

Elfen hollbwysig i Gŵyl Fach y Fro yw ei fod yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, mewn lleoliad unigryw, cyhoeddus a phoblogaidd ar Ynys y Barri, gan ei wneud yn ddigwyddiad hynod hygyrch i bawb; boed yn siaradwr Cymraeg, neu’n cael eu profiad cyntaf o’r iaith a’r diwylliant. Mae’r ŵyl yn dechrau am 11am ac yn gorffen am 7pm.