Lansio mudiad newydd i ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru

10/01/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Newyddion

Bydd mudiad newydd sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru yn cael ei lansio yn Aberystwyth ar ddiwedd y mis.

Yn ôl y bobl sy’n sefydlu’r mudiad newydd ‘Undod’, mae’r grŵp yn sosialaidd ac yn ymgyrchu dros annibyniaeth ‘radical’ i Gymru. Ymysg siaradwyr yn y lansiad, sy’n cael ei gynnal yn yr Hen Goleg yn nhref Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 26ain Ionawr, bydd Nia Edwards-Behi, sy’n dod o Aberystwyth, ynghyd â’r ymgychydd Sandy Clubb a Dan Evans sy’n cyflwyno Desolation Radio. Bydd gweithdy am sosialaeth a’r cwestiwn cenedlaethol dan arweiniad Sel Williams o Brifysgol Bangor yn ogystal.  

 

Yn esbonio pwrpas y mudiad a'r lansiad, meddai Rhys Mills, sy’n un o’r trefnwyr: "Mewn gwlad sydd â threftadaeth sosialaidd amlwg, mae angen, yn fwy dim, newid radical yn ei gwleidyddiaeth. Pwrpas ‘Undod’ yw ymgyrchu dros annibyniaeth radical i Gymru. Byddwn ni’n pwysleisio’r angen i annibyniaeth ymgorffori gwerthoedd a pholisïau fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ansawdd bywyd y mwyafrif o bobl. Mae bwriad gennym ymgyrchu ar y materion allweddol sy’n achosi dioddefaint ac anghyfiawnder yn y Gymru sydd ohoni, gan geisio gwireddu newid yn y presennol; fodd bynnag, byddwn yn gweithredu ar sail y ddealltwriaeth mai rhyddid o’r wladwriaeth Brydeinig adweithiol yw’r unig beth all wir sicrhau ffyniant parhaol i gymunedau Cymru. 

 

“Y gobaith yw bydd y grŵp yn derbyn cefnogaeth o bob rhan o Gymru a’i phobl amrywiol, ac y bydd – yn ogystal â chyfrannu at wleidyddiaeth ymarferol – yn denu cyfraniadau gan wneuthurwyr polisi, academyddion ac eraill sy’n dymuno helpu i ddychmygu a gwireddu Cymru annibynnol wir flaengar.” 

 

Cefnogi undod rhyngwladol

 

Ychwanegodd: “Yn ogystal â chefnogi undod rhyngwladol, bydd ffocws ar feithrin cydsafiad rhwng cymunedau yng Nghymru. Rhagdybiaeth sylfaenol yw’r ffaith – er gwaethaf y symptomau gwahanol – bod cymunedau amrywiol Cymru yn wynebu heriau mawrion oherwydd cyfalafiaeth ddilyffethair. 

 

“Golyga hyn bod ein cymunedau ôl-ddiwydiannol yn fregus ac yn llwyr ddibynnol ar gyfalaf tramor, tra bod ein cymunedau gwledig yn gweld eu pobl ifanc yn ymadael, argyfwng tai a thranc y Gymraeg, wedi’i ysgogi gan bolisïau rhanbarthol gwan gan Lywodraeth Cymru a grym prynwriol llethol o’r tu allan. 

 

“O dan yr amgylchiadau hyn, a chyda’r bygythiad cynyddol o’r adain dde eithafol yng Nghymru a thu hwnt, ni all y rhai sy’n credu mewn cydraddoldeb, cyfiawnder a dyfodol cynaliadwy sefyll i’r neilltu. Ni allwn adael ein pobl yn ysglyfaeth i’r wladwriaeth Brydeinig lygredig, na chwaith caniatáu i siofinyddiaeth wleidyddol elitaidd wreiddio yma. Ymhellach, mae datganoli wedi dangos ei bod yn analluog i’n hamddiffyn rhag gormodedd y Torïaid. 

 

“Mae’n hen bryd i ni, pobl Cymru, uno, er mwyn gwireddu i ni’n hunain yr egwyddorion hynny rydym yn hanesyddol wedi sefyll drosto yn y byd: cydraddoldeb, cyfiawnder a heddwch.