Mynd â cherddoriaeth Gymraeg i'r byd

12/07/2018

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Iaith, Newyddion

Mae prosiect cerddorol newydd ar fin teithio Ewrop gyda'r bwriad o fynd â cherddoriaeth Gymraeg i'r byd.

“Mae hwn wedi bod yn un o’r profiadau gorau erioed.”  Geiriau Angharad Jenkins wrth iddi ddisgrifio’r profiad o weithio gyda gweddill Pendevig dros y misoedd diwethaf. 

 

Gyda’u gig gyntaf yn prysur agosáu - maen nhw’n cloi un noson yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, Llydaw - cyn dychwelyd i Gymru mewn pryd ar gyfer cyngerdd olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, mae Angharad a’r grŵp o bymtheg o gerddorion wedi bod yn y stiwdio’n gweithio ar eu halbwm cyntaf.

 

“Mae’r agwedd tuag at gerddoriaeth ‘draddodiadol’ o Gymru wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf,” eglura Angharad.  “Daeth gŵyl WOMEX i Gaerdydd bum mlynedd yn ôl, ac yn sydyn roedd fel petai’r byd wedi deffro ac yn gweld potensial cerddoriaeth Gymreig.  Roedd pawb am glywed mwy.  Mae cerddoriaeth o’r Alban ac Iwerddon wedi bod yn adnabyddus ar draws y byd ers blynyddoedd, ond roedd cerddoriaeth Gymreig yn enigma, felly mae wedi bod yn wych teithio’r byd gyda Calan dros y blynyddoedd diwethaf.”

 

Mae prosiect Pendevig wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a chydag aelodau’r band yn rai o gerddorion blaenllaw a mwyaf dawnus y sîn, hawdd fyddai galw’r criw ynsupergroup.  Mae holl aelodau Calan yn rhan o Pendevig - Angharad Jenkins ar y ffidil, Bethan Rhiannon ar yr acordion a llais, Sam Humphreys ar y gitâr, Alice French ar y delyn, a Patrick Rimes ar y ffidil, pibgorn, chwiban, synths a phiano.

 

Aelodau eraill y grŵp yw Gwilym Bowen Rhys (Plu / Bendith), Iestyn Tyne (Patrobas),  Jordan Price Williams (Elfen / Vrï), Aneurin Jones (Vrï), a Jamie Smith ac Iolo Wheelan (Jamie Smith’s Mabon). Yn ychwanegu elfennau ffync a jazz i’r gerddoriaeth mae Greg Sterland ar y sacsoffon denor, Jake Durham ar y trombôn, Ted Smith ar y trwmped ac Aeddan Llywelyn ar y bas dwbl a’r bas trydan.

 

Ac mae’r cymysgedd eclectig yma o genres cerddorol wedi bod yn llwyddiant mawr gyda’r sengl gyntaf, Lliw Gwyn, yn rhoi rhagflas cyffrous i ni’n gynharach eleni o’r hyn sydd i ddod.

 

Mae’u hail sengl, Merch y Melinydd yn cael ei rhyddhau yfory ar Synau Pendevig, ac mae hon yn gân ychydig yn dynerach, wrth i gerddoriaeth gwerin a jazz gyfuno i greu alaw gofiadwy, gyda llais hyfryd Bethan Rhiannon yn rhoi gwedd yr 21ain ganrif ar hen alaw draddodiadol Gymreig mewn ffordd arbennig iawn.  Mae’r ddwy sengl sydd wedi’u rhyddhau yn gwbl wahanol, ac mae hyn yn adlewyrchu chwaeth a’r dylanwadau cerddorol amrywiol ar unigolion yn y band yn ôl Angharad.

 

“’Doedden ni ddim yn gwybod sut oedd pethau am weithio wrth ddod at ein gilydd am y tro cyntaf.  Roedd hi’n anodd dychmygu sut y byddem ni’n mynd ati i greu’r gerddoriaeth,” meddai.  “Yr her fawr oedd dewis pa ganeuon y dylem ni’u datblygu er mwyn eu recordio ar yr albwm.  Ond daeth popeth at ei gilydd yn hawdd iawn yn y pendraw, gyda’r pymtheg ohonom ni’n eistedd mewn cylch a dechrau chwarae.  Ac o dipyn i beth, datblygodd y gerddoriaeth gan greu ‘sŵn’ Pendevig, sy’n wahanol i unrhyw beth rydan ni wedi’i wneud o’r blaen.

 

Creu organig

 

“Gan ein bod ni i gyd yn rhan o’r broses greadigol, mae’r gerddoriaeth yn perthyn i bawb.  Mae popeth wedi datblygu mewn ffordd mor naturiol, organig a democrataidd, ac mae wedi bod yn wirioneddol braf i weithio mewn awyrgylch mor gynnes a chynhwysol.  Rydan ni i gyd wedi hen arfer cydweithio o fewn ein grwpiau ein hunain, ond mae’r ffaith fod gennym ni gymysgedd mor eclectic o offerynnau a phobl wedi ychwanegu cymaint at y broses a’r prosiect.  Alla i ddim disgwyl i fynd â’r gerddoriaeth allan o’r stiwdio a’i roi ar lwyfan byw.”

 

A bydd hyn yn digwydd mewn ychydig wythnosau, gyda’r band wrthi’n brysur yn ymarfer ar gyfer eu perfformiad cyntaf yn Lorient.  “Gobeithio mai cychwyn y daith fyddwn ni gyda Pendevig yn Lorient a’r Eisteddfod.  Mae cymaint o wyliau gwerin ym Mhrydain a thu hwnt a phawb yn chwilio am grwpiau mawr cryf.

 

“Rwy’n credu fod Pendevig yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i unrhyw beth arall sydd yn y sîn ar hyn o bryd.  Mae gennym ni’r angerdd am y gerddoriaeth, yr egni a’r weledigaeth i drawsnewid rhai o’n halawon hynaf a mwyaf traddodiadol i ganeuon sy’n cydio yn nychymyg cynulleidfaoedd yr 21ain ganrif.  Rydan ni i gyd yn awyddus i’r prosiect yma fynd o nerth i nerth ac i deithio’r byd.”