Grant gwerth 2.5 miliwn i adfer a chynnal Gwastadeddau Gwent

13/03/2018

Categori: Addysg, Amgylchedd, Hamdden, Newyddion

Mae grant gwerth £2.5 miliwn gan y Loteri Genedlaethol wedi’i sicrhau er mwyn adfer, gwella a dathlu treftadaeth unigryw tirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y cyllid hwn yn helpu i hybu ac ailgysylltu pobl â threftadaeth, bywyd gwyllt a harddwch gwyllt y dirwedd hanesyddol yma, gan wneud cyfraniad arwyddocaol at les pobl leol a chenedlaethau’r dyfodol.

 

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn mwy na thair blynedd o gynllunio a gwaith sylfaen gan bartneriaid y Gwastadeddau Byw, gan weithio’n agos â chymunedau lleol i greu cynllun a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth i bobl leol. Yn ystod y tair blynedd a hanner nesaf, bydd Gwastadeddau Gwent yn elwa o gyfres o brosiectau er mwyn adfer a gwella treftadaeth naturiol yr ardal, datblygu gwerthfawrogiad llawer gwell o werth y dirwedd drwy wella gwybodaeth, hyrwyddo a mynediad ac, yn olaf, ysbrydoli pobl i ddysgu am dreftadaeth y Gwastadeddau ac ymwneud â hi. Mae’r bartneriaeth yn cael ei harwain gan RSPB Cymru ac yn cynnwys tri awdurdod lleol - Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy - Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gwent, Archifau Gwent, Buglife Cymru, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gwenyn, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Stori Caerdydd a Sustrans.

 

Dywedodd Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: “Mae’r cyllid i’r Gwastadeddau Byw yn gyfle gwych i adfer ac ailddarganfod yr ardal wledig ryfeddol yma, sy’n gwbl wahanol i fywyd y ddinas, fel ‘ysgyfaint gwyrdd’ i bobl dinasoedd mawr Caerdydd, Casnewydd a chymoedd De Cymru. Rydyn ni eisiau dathlu Gwastadeddau Gwent a sicrhau bod byd natur a hanes rhyfeddol yr ardal yma ar gael yn fwy hwylus i bawb eu mwynhau a’u hastudio.

 

Fedrwn ni ddim aros i ddechrau gweithio gyda’r bobl a’r cymunedau sy’n defnyddio’r dirwedd unigryw yma ac yn hoff ohoni. Mae RSPB Cymru yn falch iawn o fod yn arwain y bartneriaeth uchelgeisiol yma, a fydd yn helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy i’r Gwastadeddau - eu bywyd gwyllt, y bobl a’r economi - yn ein barn ni.”

 

Bydd y cyllid sylweddol yn helpu i warchod y dirwedd ac yn ysbrydoli pobl a sefydliadau lleol i ddod at ei gilydd i ddatblygu eu potensial economaidd llawn, creu ffyniant cynyddol a sicrhau manteision adfywio eraill i'r ardal. Bydd buddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio newydd yn ei gwneud yn haws i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gael mynediad i'r ardal ryfeddol yma a dysgu am ei hanes a’i threftadaeth.

 

Llefydd bregus sy’n rhan o’n hunaniaeth

 

Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Mae ein tirweddau trawiadol ni’n diffinio cymeriad unigryw Cymru ac maen nhw’n rhan o bwy ydyn ni yn union fel ein hanes ni, yr iaith. Maen nhw’n agos at galon y bobl sy’n galw Cymru’n ‘gartref’ yn ogystal â’r degau ar filoedd o dwristiaid sy’n ymweld â nhw.

 

“Rhaid gofalu am y llefydd bregus yma ar gyfer y dyfodol ac, o’u rheoli’n ofalus, gallant chwarae rhan bwysig iawn hefyd mewn datblygu economi ein gwlad.

 

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae gennym ni gyfle yn awr i gefnogi a gofalu am yr ardal yma, gan dynnu sylw at ei manteision i bawb sy’n byw ac yn gweithio yma.”

 

Bydd y cyllid yn adfer nodweddion treftadaeth allweddol ar draws y Gwastadeddau, gan gynnwys eu perllannau hynafol a’r cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio prin fel y gardwenynen feinlais, un o wenyn prinnaf y DU. Hefyd mae’r partneriaid wedi datblygu rhaglen uchelgeisiol i orfodi gweithredu cyfreithiol ynghylch gwaredu sbwriel yn anghyfreithlon ac i annog newid ymddygiad a fydd, ochr yn ochr â gwaith y gwirfoddolwyr, yn arwain at fwy o ymwneud gan y gymuned â'r dirwedd, a mwy o werthfawrogiad o werth anhygoel asedau treftadaeth hanesyddol a naturiol yr ardal.

 

Bydd y buddsoddiad yn arwain at fwy na 1,000 o gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli ac yn cynnwys prosiectau gyda ffermwyr a pherchnogion tir, ysgolion a cholegau, ac amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol ledled y tri awdurdod lleol, sef Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy.