Cynllun rhannu beiciau yn dod i Abertawe
Categori: Addysg, Amgylchedd, Hamdden, Newyddion

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Her Beiciau Santander i Brifysgolion, sy’n golygu y bydd cynllun rhannu beiciau tebyg i’r cynllun yn Llundain yn dod i Abertawe yng ngwanwyn 2018.
Bydd y cynllun rhannu beiciau ar gael i'r gymuned gyfan, ac yn dod â buddion i holl staff a myfyrwyr y Brifysgol ac i fusnesau lleol, preswylwyr ac ymwelwyr Abertawe.
Cyrhaeddodd pum prifysgol o wledydd Prydain y rownd derfynol mewn ymgyrch ariannu torfol, a Phrifysgolion Abertawe a Brunel Llundain ddaeth i’r brig ar ôl codi'r canran uchaf o arian uwchben eu targed gweithredol. Bydd y ddwy ohonynt yn derbyn y costau cyfalaf ar gyfer cynllun beiciau gwerth £100,000.
Targed gwreiddiol Prifysgol Abertawe oedd £53,178, ond codwyd bron i £100,000 gan 612 o gyfranwyr. Bydd yr arian ychwanegol a godwyd yn cael ei ddefnyddio i ehangu’r cynllun i ragor o leoliadau yn Abertawe.
Bydd y cynllun rhannu beiciau'n cysylltu Campws Parc Singleton a Champws y Bae, gan ddarparu 50 o feiciau a 90 o orsafoedd docio wedi'u lleoli mewn pump hyb ar hyd y llwybr beicio. Bydd yr hybiau yn cael eu gosod ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y Ganolfan Ddinesig ac ar safle parcio a theithio Ffordd Fabian.
Dywedodd Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae’r ymgyrch wedi derbyn cefnogaeth anhygoel gan gymuned y Brifysgol, ac o bobl ar draws y ddinas. Mae unigolion a busnesau wedi dangos faint o chwant sydd yma yn Abertawe i ddod â chynllun llogi rhannu beiciau i'n dinas.
“Rydm wedi bod yn gweithio’n agos â Chyngor Dinas a Sir Abertawe, a mi fyddwn yn parhau i weithio â’r awdurdod lleol i ddatblygu’r cynllun. Rydym wedi derbyn cefnogaeth sylweddol wrth Santander, Crowdfunder a Nextbike drwy gydol y broses, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â nhw wrth i ni weithio tuag at lansiad y cynllun yn y gwanwyn”.
Meddai Andrea Lewis, Aelod Cabinet Tai, Ynni a Gwasanaethau Adeiladu, Cyngor Dinas a Sir Abertawe: "Rydym wrth ein bodd bod y brifysgol wedi llwyddo yn eu cais i gyflwyno'r cynllun rhannu beiciau hwn i Abertawe.
"Fel Cyngor, rydym yn gwbl ymrwymedig i gynyddu dulliau cludiant gwyrdd. Rydym wrthi'n cynyddu ein fflyd o gerbydau trydan ein hunain, gan helpu i ostwng ein hôl troed carbon. Bydd y cynllun beiciau hwn yn allweddol i'n cynorthwyo ni yn ein nodau cyffredinol a dyna pam yr ydym yn cefnogi’r cynllun hwn”.
Cymunedau yn elwa
Meddai Mike Hutnell, Cyfarwyddwr Santander Universities UK: "Rydym yn llongyfarch Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Brunel Llundain am ennill y gystadleuaeth hon. Roedd lefel yr ymrwymiad gan bawb yn y rownd derfynol yn anhygoel, yn enwedig yn ystod y cyfnod o godi arian. Yn bwysicaf oll, roedd yr enillwyr yn gallu dangos lefel y gefnogaeth gan y rheini fydd yn elwa o’r cynllun - sef eu cymunedau eu hunain. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r ddau sefydliad dros y misoedd nesaf i gael y cynlluniau beicio yn barod i'w lansio”.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru