Cyhoeddi anrhydeddau'r Orsedd am eleni

Fe gyhoeddwyd heddiw anrhydeddau blynyddol yr Orsedd fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod, fore Llun 5 Awst a bore Gwener 9 Awst.

 

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu cyfraniad.

 

Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

 

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

 

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen. Ymysg yr enwau cyfarwydd a fydd yn cael eu hurddo gan yr Orsedd eleni yw’r chwaraewyr rygbi, Ken Owens a Jonathan Davies, y cyflwynydd a’r digrifwr, Tudur Owen a’r delynores ryngwladol, Catrin Finch.

 

Eleni hefyd, mae amryw o’r rheini a urddir wedi dysgu Cymraeg a nifer wedi symud o wledydd eraill i Gymru, gan goleddu ein hiaith a chyfoethogi ein diwylliant.

 

Dyma rai o'r enwau mwyaf adnabyddus o blith yr anrhydeddau: 

 

Gwisg Werdd

 

Pierino Algieri

 

Yn fab i garcharor rhyfel o’r Eidal, magwyd Pierino Algieri, Llanddoged yn Nyffryn Conwy, gan ddysgu Cymraeg ddeugain mlynedd yn ôl a magu’i blant ar aelwyd Gymraeg. Er iddo ddilyn gyrfa fel ciper a warden ar ddyfroedd Dyffryn Conwy, gwnaeth enw iddo’i hun yn y maes agosaf at ei galon, ffotograffiaeth tirluniau. Cafodd ei gyfrol, Eidalwr yn Eryri, sylw cenedlaethol, ac mae ei waith wedi ymddangos ar gloriau sawl llyfr a CD.

 

Catrin Finch

 

Yn un o gerddorion amlycaf Cymru, mae dawn Catrin Finch, Pentyrch ar y delyn wedi’i harwain i lwyfannau ar hyd a lled y byd. Yn wreiddiol o Lan-non, Ceredigion, llwyddodd yn ei harholiad gradd wyth gyda’r marc uchaf ar draws Prydain gyfan, a hithau ond yn naw oed ar y pryd. Mae hi wedi recordio a rhyddhau cynnyrch sy’n cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr o bob cyfnod, ynghyd â chyfres o alawon gwerin o Gymru, a phrosiect arbennig gyda’r cerddor Seckou Keita o Senegal. Mae’n weithgar yn ei chymuned, ac mae Academi Catrin Finch yn trefnu Ysgol Haf y Delyn ymhlith digwyddiadau eraill o bwys.

 

John Jones (John ac Alun)

 

Efallai na fydd pawb yn sylweddoli pwy yw John Jones, Tudweiliog wrth glywed ei enw ar ei ben ei hun, ond wrth ychwanegu ‘ac Alun’ ar ôl ei enw cyntaf, mae’n amlwg ei fod yn un hanner o’r ddeuawd hynod boblogaidd, John ac Alun. Mae ei gerddoriaeth wedi rhoi pleser i filoedd o gefnogwyr, a gydag Alun, mae’n gefnogwr brwd nifer o elusennau pwysig, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae ei wreiddiau’n ddwfn yn ardal Pen Llŷn, a hyn yn cael ei adlewyrchu yn nifer o ganeuon y ddeuawd. Mae’r ddau yn parhau i deithio ar hyd a lled Cymru a’r tu hwnt yn perfformio i gynulleidfaoedd o bob oed.

 

Bethan Kilfoil

 

Un a symudodd ar draws y dŵr i Co. Kildaire yw Bethan Kilfoil, Newbridge, ac erbyn heddiw, mae’n olygydd newyddion ar RTE yn Iwerddon. Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, bu’n wyneb a llais amlwg ar raglenni newyddion y BBC yng Nghymru, gan dreulio cyfnodau fel gohebydd yn Llundain, ac yna fel gohebydd Ewrop BBC Cymru ym Mrwsel. Er iddi symud o Gymru, mae ei chyfraniad i’r byd newyddion yma’n parhau, ac mae i’w chlywed a’i gweld yn rheolaidd yn cyfrannu’n ddisglair a chytbwys yn y Gymraeg ar agweddau ar fywyd Iwerddon. Mae hi hefyd yn cyfrannu erthyglau misol treiddgar a bywiog i’r cylchgrawn, Barn.

 

Geraint Løvgreen

 

Mae Geraint Løvgreen, Caernarfon wedi cyfrannu’n helaeth a di-dor i’r byd canu poblogaidd er y 1970au, ac mae’n llais cyfarwydd ar raglenni fel Talwrn y Beirdd. Caiff ei adnabod fel un o gerddorion mwyaf cynhyrchiol ei gyfnod, ac mae’n uchel iawn ei barch ymysg beirdd a chantorion ac enwogion o fri! Bu’n rhan o sefydlu cwmni cyfieithu Cymen, gyda chwmnïau a sefydliadau’n parhau i droi ato am wybodaeth a chyngor ieithyddol a diwylliannol. Mae’n Gymro teyrngar sydd wedi adeiladu’i yrfa a’i fywyd teuluol o gwmpas y diwylliant Cymraeg.

 

Alun Roberts (John ac Alun)

 

Cawn gyfle i anrhydeddu hanner arall y ddeuawd John ac Alun, wrth i Alun Roberts, Tudweiliog gael ei urddo hefyd eleni. Gyda’i bartner cerddorol, bu Alun yn perfformio am flynyddoedd, ac mae’r ddau wedi ysbrydoli nifer o artistiaid, gan eu rhoi ar ben ffordd a’u meithrin i fod o flaen cynulleidfa. Mae llu o gerddorion wedi cael profiadau arbennig fel rhan o’u band a theithio i Nashville a Memphis, Tennessee. Er ugain mlynedd bellach, bu’r ddau’n cyflwyno sioe boblogaidd ar nos Sul ar Radio Cymru, ac maent hefyd wedi serennu mewn nifer o gyfresi teledu.

 

Gwisg Las

 

Jonathan Davies

 

Jonathan Davies, Bancyfelin yw canolwr tîm rygbi Cymru, a chwaraeodd ran amlwg ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Mae’n ysbrydoli’r tîm ar y cae rygbi, pan fydd yn chwarae dros Gymru a thros dîm y Sgarlets, gan drefnu’r amddiffyn, bylchu’n gyfrwys a phasio’n ddeallus. Fe’i dewiswyd gan ei gyd-chwaraewyr yn Chwaraewr y Gyfres ar daith y Llewod yn 2017. Mae ei gyfraniad i’r tîm cenedlaethol yn amhrisiadwy, a braf yw gwrando arno’n cael ei gyfweld ar y radio a’r teledu yn y Gymraeg ar ddiwedd pob gêm.

 

Tudur Owen

 

Gall Tudur Owen, Y Felinheli gynnal diddordeb a pharch pobl sydd â’u gwreiddiau’n nwfn yn y diwylliant Cymraeg traddodiadol yn ogystal â’r Cymry Cymraeg hynny nad ydynt eto wedi llwyr ymollwng iddo. Mae’n bont a chenhadwr gwerthfawr mewn oes pan fydd llawer o Gymry Cymraeg yn troi at Loegr a’r iaith Saesneg am eu hadloniant. Mae ei ddawn ym maes comedi wedi ennill iddo barch ar hyd a lled Prydain gan greu cryn argraff mewn gwyliau comedi rhyngwladol a dylanwadol fel yr Edinburgh Fringe. Llwyddodd i wneud hyn heb gyfaddawdu ar ei Gymreictod, ei gefndir na’i barch at ei wlad a’i iaith.

 

Ken Owens

 

Yn gynharach eleni, roedd Ken Owens, Pontyberem yn arwr cenedlaethol, fel rhan o dîm rygbi Cymru a gipiodd y Gamp Lawn ar ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. O ddydd i ddydd, mae’n aelod o dîm y Sgarlets ac yn fachwr heb ei ail dros ei ranbarth a’i wlad. Mae’n ysbrydoli ei gyd-chwaraewyr ar y cae gyda’i daclo digyfaddawd a’i hyrddiadau penderfynol. Mae’n siaradwr huawdl, a phleser yw gwrando ar ei gyfweliadau Cymraeg yn dilyn pob gêm.

 

Elfed Roberts (i’w urddo yn 2020)

 

Ymddeolodd Elfed Roberts, Caerdydd o’i swydd fel Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018, yn dilyn chwarter canrif wrth y llyw. Datblygodd ac esblygodd yr Eisteddfod yn rhyfeddol dan ei ofal, ac erbyn heddiw mae’n ŵyl fywiog a lliwgar sy’n denu ymwelwyr o bob oed a chefndir, ond heb golli golwg ar ei gwreiddiau dwfn yn nhraddodiadau a diwylliant Cymru. Yn ystod ei gyfnod, teithiodd yr Eisteddfod i bob rhan o’r wlad, ac mae’r gwaddol ieithyddol a diwylliannol a adawyd ar ei hôl i’w weld yn glir ym mhob cornel o Gymru.

 

Glyn Roberts

 

Mae Glyn Roberts, Padog yn llywydd Undeb Amaethwyr Cymru er pedair blynedd, ac yn gweithio’n gwbl ddiflino dros amaethwyr ers blynyddoedd. Er nad oedd yn fab fferm ei hun, roedd ganddo ddiddordeb byw mewn amaethyddiaeth, ac ar ôl astudio yng Ngholeg Amaeth Glynllifon, dechreuodd ei yrfa fel bugail. Erbyn heddiw, mae’n rhedeg fferm 350 erw, Dylasau Uchaf, sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ganddo gefndir cryf o gefnogi a gweithio gyda mudiad y Ffermwyr Ifanc, ac mae hefyd yn weithgar iawn yn ei gymuned leol gan ymddiddori mewn llenyddiaeth o bob math.

 

Aled Samuel 

 

Mae Aled Samuel, Llandeilo yn adnabyddus fel darlledwr a chyflwynydd poblogaidd ar y radio a’r teledu. Mae cyfresi fel 04 Wal, Pobl a’u Gerddi ac Y Dref Gymreig wedi apelio at wylwyr o bob oed, gan roi blas i ni ar bensaernïaeth, gerddi a hanes Cymru dros y blynyddoedd. Mae’n gyfrannwr rheolaidd i’r cylchgrawn Golwg ac yn awdur amryw o lyfrau, gan gynnwys detholiad o’i golofnau yn y cylchgrawn hwnnw, ynghyd â’i gyfrol ddiweddaraf, 100 Lle i’w Gweld Cyn Brexit. Mae’n gefnogwr brwd o’r Eisteddfod, a’i anturiaethau ar y maes carafanau dros y blynyddoedd wedi llenwi ambell golofn cylchgrawn!

 

Gari Wyn

 

Byd busnes a cheir yw arbenigedd Gari Wyn Jones, Bangor. Er iddo hyfforddi fel athro Hanes a gweithio yn y maes hwnnw am gyfnod, roedd mentergarwch yn ei waed, ac yn 1990 aeth ati i sefydlu ei fusnes gwerthu ceir ei hun, Ceir Cymru. Mae darparu gwasanaeth Cymraeg wrth galon y cwmni, a’r iaith i’w gweld ym mhob elfen o’u gwaith. Mae’n weithgar yn annog Cymry lleol, a phobl ifanc yn arbennig, i fentro ym myd busnes, ac yn ymgynghorydd entrepreneuriaid ifanc ar ran Menter a Busnes gan ymweld ag ysgolion a cholegau yn rheolaidd i gynnig ei gyngor. Gyda’i ddiddordeb mewn hanes, mae’n arbenigwr ar ardal Uwchaled, hanes y Cymmrodorion, a hanes Jac Glan-y-gors yn Llundain.