Cyfres newydd yn olrhain hanes Cymry Llundain

24/04/2015

Categori: Addysg, Celfyddydau, Hamdden, Llenyddiaeth, Newyddion

Mewn cyfres newydd ar S4C bob nos Sul, Huw Edwards fydd yn olrhain hanes y Cymry yn Llundain. Dros y tair wythnos nesaf, cawn ddysgu mwy am hanes a dylanwad y Cymry ar un o ddinasoedd mawr y byd - a dylanwad Llundain ar Gymru.

 

Ganed Huw Edwards ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'i fagu yn Llangennech ond mae wedi ymgartrefu yn Llundain ers tro bellach gyda'i wraig a'u pump o blant. Yn aelod gweithgar o'r gymuned Gymreig yn Llundain, mae Huw yn ymddiddori'n fawr yn hanes y Cymry yn Llundain.

 

"Mae stori Cymry Llundain yn stori o bwys i bawb sy'n cymryd diddordeb yn hanes Cymru. Un o'r elfennau mwyaf pwysig yw crefydd y Cymry yn Llundain. Fe dreuliais i bum mlynedd yn twrio ac yn ymchwilio i hanes y capeli a'r eglwysi Cymraeg yn y ddinas. Dyna i chi brosiect a hanner. Ond mae 'na fynydd o wybodaeth arall yn y gyfres hefyd – dros bum canrif o hanes y Cymry yn Llundain," meddai Huw.

 

Mae'r gyfres yn mynd â'r gwylwyr ar daith i nifer o fannau trawiadol sydd â chysylltiadau Cymreig gan gynnwys Tŵr Llundain, Big Ben ac Abaty San Steffan. Ond darganfyddiad annisgwyl yw un o uchafbwyntiau'r gyfres i Huw.

 

"Efallai un o'r uchafbwyntiau oedd dod o hyd i fedd un o Gymry mawr Oes Fictoria wedi ei guddio ynghanol mynwent sydd bellach yn warchodfa natur. Mae 'na adeiladau a chofgolofnau wedi eu henwi ar ei ôl e yng Nghymru, ond mae ei fan gorffwys ynghanol mieri Stoke Newington," meddai.

 

Bwrlwm Cymraeg y Ddinas

 

Mae'r gyfres yn dechrau gyda hanes Harri Tudur a'i filwyr o Gymru ac yn mynd ymlaen i drafod oes y porthmyn, merched y gerddi a'r llaethwyr. Cawn glywed mwy am y cymdeithasau llenyddol disglair a gorsedd y beirdd ar Fryn y Briallu – digwyddiad sy'n sylfaen i seremonïau'r Eisteddfod fodern. A bydd sefydliadau diweddar hefyd yn dod dan y chwyddwydr megis Cymry Llundain, sydd â chanolfan ynghanol y brifddinas yn hybu iaith a diwylliant Cymru.

 

Meddai Huw Edwards, "Mae 'na le yn y gyfres i bethau amlwg fel seremoni gyntaf Gorsedd y Beirdd gyda Iolo Morganwg. Ond ry' ni hefyd yn edrych ar hanesion llai amlwg. Byddwn yn sôn am y Cymro a greodd gyflenwad dŵr ffres ar gyfer canol Llundain yn yr ail ganrif ar bymtheg. Stori ryfeddol yw honno, stori am wella iechyd a glanweithdra, ac achub miloedd ar filoedd o fywydau."

 

Yn y gyfres fe gawn glywed barn arbenigwyr gan gynnwys yr Arglwydd John Morris, yr Athro Prys Morgan a Dr Eryn White a chwrdd â'r rheiny sydd wedi gwneud eu cartref yn y brifddinas. O gyfnod y Tuduriaid hyd heddiw, mae Huw Edwards a'r Cymry Estron: Stori Cymry Llundain yn astudio dros bum canrif o hanes difyr y Cymry yn Llundain, ac yn ein dysgu am eu cyfraniad enfawr at fywyd yn un o brifddinasoedd mwyaf byrlymus y byd.

 

Mae'r gyfres yn dechrau nos Sul yma am 8yh. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net