Croesawu Geraint Thomas yn ôl

Dychwelodd Geraint Thomas heddiw i’w ddinas enedigol fel arwr wrth i filoedd o bobl ei groesawu i’r Senedd a Chastell Caerdydd yn dilyn ei gamp anhygoel yn ennill y Tour De France.

Mae Geraint Thomas bellach ymhlith oriel anfarwolion y byd chwaraeon yng Nghymru wrth i Gymru i gyd ei groesawu’n ôl. Mae ei gamp yn curo’r ras fwyaf adnabyddus yn y byd seiclo wedi ennill sylw iddo ef yn fydeang, a phan chwifiodd y Ddraig Goch ar derfyn y ras, daeth y byd i wybod am Gymru.  

 

Dyma gyfle gwych i’r brifddinas ddathlu ei lwyddiant, ac mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o’r negeseuon Trydar a fydd yn cynnwys ambell i grys melyn!! 

 

Dyma gyfle i fwynhau’r achlysur hanesyddol mewn lliw, fideo a llun. Mwynhewch y dathliad melyn. Iechyd da i Geraint!