Arolwg morol yn dangos cynnydd yn y ddôl forwellt oddi ar Ynys Sgomer yn Sir Benfro

Mae arolwg morol gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi dangos cynnydd yn y morwellt oddi ar Ynys Sgomer, Sir Benfro.

Cynhaliodd tîm o wyddonwyr morol nifer o arolygon rhwng 1997 a 2018, i fonitro iechyd morwellt ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer.

 

Bu tîm o ddeifwyr gwirfoddol yn cefnogi’r arolwg, gan fonitro maint y dolydd morwellt a dwysedd y planhigion morwellt. Dywedodd Phil Newman, Prif Swyddog Cadwraeth Forol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae dolydd morwellt yn darparu ardaloedd meithrin ar gyfer rhywogaethau masnachol pwysig megis penfras, morlas a lledod ond maen nhw'n gostwng 7% y flwyddyn yn fyd-eang.

 

“Dangosodd ein harolwg fod y ddôl forwellt yn iach, ei bod wedi ehangu a bod dwysedd planhigion yr uchaf a gofnodwyd erioed ar y safle hwn. “Mae hwn yn ganlyniad gwych, yn mynd yn groes i'r duedd ac yn rhoi hwb i fywyd morol. “Mae dolydd morwellt yn gweithredu fel hidlwyr anferth, yn ailgylchu maetholion ac yn lleihau micro-organebau sy'n gallu achosi clefydau yn ein moroedd. “Fe gollon ni 90 y cant o forwellt trwy glefyd, ledled Gogledd yr Iwerydd yn y 1930au. Arweiniodd hyn at ddirywiad enfawr mewn cregyn cylchog, cimychiaid, cregyn bylchog, crancod, penfras a lledod mwd.

 

“Mae morwellt hefyd yn forglawdd effeithiol ac yn sefydlogi dyddodion, ac mae ei golled yn achosi erydu arfordirol a mwy o lygredd.” Mae’r ddôl forwellt yn Hafan y Gogledd, lle mae ymwelwyr ag Ynys Sgomer yn glanio. Mae'n ardal brysur ar gyfer cychod modur sy'n ymweld a chychod hwylio sydd angen lle diogel i stopio ac angori. Er mwyn diogelu'r morwellt rhag difrod gan angori, mae bwiau “Dim angori”, sydd yn nodi'n glir y ddôl morwellt, wedi'u gosod. Mae tîm Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi sefydlu nifer o angorfeydd ar gyfer cychod sy'n ymweld ac yn annog pobl i’w defnyddio.

 

Gofalu am ein hadnoddau

 

Ychwanegodd Phil: “Mae'r adnoddau naturiol rydym yma i'w hamddiffyn - ein hawyr, ein tir a'n dyfroedd - yn gartref i'r bywyd gwyllt cyfoethog, amrywiol a gwerthfawr sydd gennym yng Nghymru. “Mae'n rhaid i ni ofalu am yr adnoddau hyn nawr, iddyn nhw barhau i gynnal ein bywyd gwyllt, ein cymunedau a'n heconomi yn y dyfodol. “Rydym yn atal cychod rhag angori yn y morwellt er mwyn gwarchod y cynefin gwerthfawr a ffynhonnell fwyd ar gyfer pysgod, cregyn bylchog, crancod meddal a chrancod heglog, yn ogystal ag adnau o “garbon glas” - storio carbon deuocsid yn yr hirdymor yn y môr".