Arferion y Nadolig yng Nghymru

23/12/2015

Categori: Amgylchedd, Bwyd, Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Ar drothwy’r Nadolig, mae Lleol.cymru yn bwrw golwg dros arferion yr Ŵyl yng Nghymru.  

 

Mae nifer o arferion sy’n gysylltiedig â'r Nadolig, wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach Celtaidd. Mae'r dyddiad yn ben-blwydd traddodiadol Iesu Grist, er nad yw'n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd. Mae’n cyd-fynd hefyd gyda byr-ddydd Gaeaf sef diwrnod byraf y flwyddyn ac fe roedd dathliadau’r Nadolig yn cael ei weld fel sumbol o’r troad yn y rhod wrth i’r dyddiau ymestyn eto. 

 

Fe ddathlir y Nadolig y rhan fwyaf o wledydd Cristnogol ar y 25 Rhagfyr, gyda’r diwrnod canlynol yn cael ei gydnabod fel diwrnod i gofio San Steffan gyda sawl gwlad yn Ewrop hefyd yn neilltuo’r diwrnod yn wyliau cyhoeddus i gofio’r Sant.  

 

Coeden Nadolig

 

Nid yw’r goeden Nadolig yn draddodiad hynafol iawn gan mai Albert, gŵr y Frenhines Victoria, ddaeth â hi i wledydd Prydain o'r Almaen ym 1841. 

 

Canu Plygain

 

Mae gan y Cymry eu harferion unigryw yn ystod cyfnod y Nadolig ac ymhlith y rhai amlycaf yw’r canu Plygain. Gwasanaeth cwbl Gymreig ydyw, sy’n cael ei gynnal mewn eglwys fel arfer yn gynnar ar fore'r Nadolig neu ar noswyl Nadolig. Bydd pobl yn ymuno i ganu carolau yn ddigyfeiliant  ac mewn tri neu bedwar llais. Er mai dathlu geni a hanes Crist mae'r geiriau, mae gwreiddiau cerddorol carolau'r Plygain yn ddwfn yn nhraddodiad gwerin Cymru, ond fel y cyfryw mae llawer ohonynt yn cynnwys llinellau am y croeshoelio. Mae’r traddodiad yn parhau yn gryf yn ardal Sir Drefaldwyn hyd heddiw 

 

Y Fari Lwyd

 

Traddodiad arall yng Nghymru ydy'r Fari Lwyd, traddodiad sy'n parhau hyd heddiw rhwng y Nadolig a Nos Ystwyll, ond sy'n tarddu o bosib o draddodiadau am y dduwies Geltaidd Rhiannon. Fe roir penglog ceffyl o dan gynfas, wedi'i addurno â chlychau a dyna yw’r Fari Lwyd. Roedd gwaseila yn rhan o'r hwyl - sef mynd â ffiol yn llawn cwrw a sbeis o dŷ i dŷ. Traddodiad arall yn ystod Nos Calan oed hel calennig sy’n arfer o gyflwyno rhoddion ar Ddydd Calan sef dydd cyntaf y flwyddyn. Byddai grwpiau o blant yn mynd o  dŷ i dŷ ac yn dymuno iechyd a llwyddiant i’r teulu ar gyfer y flwyddyn i ddod, Byddent yn canu penillion wrth drws y ty ac yn cael rhodd o fwyd neu arian am eu trafferth. 

 

Cyflath

 

Mae’r arferiad o wneud cyflaith neu daffi meddal yn draddodiad sy'n gysylltiedig â dydd Calan a'r Nadolig; roedd ei wneud yn gywir yn dipyn o grefft a byddai'n arferiad arllwys y taffi cynnes, gwlyb ar garreg neu lechen wedi ei iro. Yna, byddai aelodau'r teulu'n ei dynnu a’i ymestyn. Mae’r traddodiad yn parhau yn ardal Y Bala. 

 

Hela dryw

 

Fe arferid hela'r dryw, sy'n aderyn bach, cyflym â chân uchel, brysur ganddo hyd at ryw ganrif yn ôl, ar Nos Ystwyll - sef y deuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig a diwedd yr ŵyl. Byddai'r dryw yn cael ei ladd, ei addurno, a'i roi mewn 'tŷ' neu flwch bychan. Byddai grŵp o ddynion wedyn yn cludo'r tŷ o gwmpas y pentref, a byddai trigolion y pentref yn rhoi arian iddynt am y fraint o gael cipolwg ar yr aderyn bach.