Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 63 cofnodion | Tudalen 1 o 7

Medal Efydd i Geraint Thomas

01/08/2014
Categori: Chwaraeon, Newyddion

Dim ond tri diwrnod ar ôl gorffen y Tour de France mae Geraint Thomas wedi ennill medal Efydd yn y ras yn erbyn y cloc yn Gemau’r Gymanwlad. Gorffennwyd y ras mewn 47:55:82 tu ôl Alex Dowsett o Loegr a Rohan Davies o Awstralia. 
 
Gyda 28 medal mae Tîm Cymru nawr yn yr 11eg safle yn y tabl ac wedi curo'r targed o ennill 27 o fedalau gyda sawl diwrnod o’r gemau ar ôl. Mae yna ddigon o gyfleodd ar ôl i ennill fwy ac mae’n debygol i ni guro record Cymru o 31 o fedalau a enillwyd ym Manceinion yn 2012.
 
Pob lwc i’r tîm ar gyfer gweddill y gemau. 
 
Darllenwch mwy i weld rhai o’r cyfarchion i Geraint ...

darllenwch mwy

Ffigyrau Gwrando BBC Radio Cymru yn C...

31/07/2014
Categori: Newyddion

Newyddion da i BBC Radio Cymru heddiw gyda ffigyrau diweddara o Rajar (Radio Joint Audience Research Ltd) yn dangos cynnydd yn y nifer o wrandawyr. Mae tua 147,000 o bobl nawr yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos, cynnydd o 4,000 yn y 3 mis diwethaf.
 
Mae’r ffigyrau yma yn bositif i’r orsaf ar ôl newidiadau mawr yn amserlen Radio Cymru yn ddiweddar. Yn ogystal â mwy o bobl yn gwrando mae’r ffigyrau hefyd yn dangos bod pobl yn gwrando am amser hirach. 
 
Mae Rajar yn cyhoeddi'r ffigyrau bob tri mis felly ffigyrau chwe mis cyntaf y flwyddyn sydd ar gael. Gobeithio gwelwn y ffigyrau yn codi trwy gydol y flwyddyn.
 
Cyhoeddwyd ffigyrau R ...

darllenwch mwy

Ar y Ffordd i Llanelli.....Eisteddfod...

30/07/2014
Categori: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Iaith, Newyddion

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn agor y drysau i’r cyhoedd yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin wythnos nesa ond mae safle'r maes wedi bod yn prysuro ers amser nawr. Mae’n dasg anferth i gael y safle yn barod pob blwyddyn ac mae’r maes fel arfer tua 35 acer mewn maint ac yn gartref i’r pafiliwn pinc a hyd at 300 o stondinau. 
 
Dros y diwrnodau diwethaf mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn llawn negeseuon wrth y rhai sydd yn paratoi ar gyfer yr wythnos, pawb yn brysur yn cyrraedd Llanelli. 

Dros yr Eisteddfod fyddwn yn casglu'r newyddion diweddara o’r cyfryngau cymdeithasol felly dewch 'nôl yn ystod yr wythnos. 

Dar ...

darllenwch mwy

Mwy o gymunedau i elwa o fand llydan ...

30/07/2014
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd mwy o gymunedau Cymreig yn derbyn band llydan ffeibr uwchgyflym erbyn haf 2015 fel rhan o raglen Cyflymu Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a BT heddiw.
 
Mae sir Fynwy, sir Gaerfyrddin a sir Benfro ymhlith yr ardaloedd fydd yn elwa ar ôl cyhoeddiad heddiw, sydd hefyd yn cynnwys dechrau gwaith mewn ardaloedd 35 cyfnewidfa yn gynharach na’r disgwyl.
 
Bydd trigolion a busnesau 66 ardal newydd ar draws 10 awdurdod lleol yn gallu cael band llydan ffeibr erbyn Mehefin 2015.
 
Ar ôl cwblhau’r gwaith yn yr ardaloedd a gadarnhawyd heddiw, bydd dros 500,000 cartref  a busnes ar hyd a lled y wlad yn gallu cael y dechnoleg newydd yn ystod haf 20 ...

darllenwch mwy

Llyfr ofnadwy o ddifyr, bywiog a darl...

30/07/2014
Categori: Adolygiadau Llyfrau, Iaith, Newyddion

Newydd ei chyhoeddi y mae'r gyfrol hon sy’n edrych ar waith un o feirdd pwysicaf Cymru, y diweddar Iwan Llwyd. Gyda chyfraniadau gan feirdd a beirniaid llenyddol amlwg mae Awen Iwan yn cynnig astudiaeth fanwl o waith y bardd fu farw yn 2010. Dyma’r gyfrol gyntaf i gynnig trafodaeth gynhwysfawr o’i waith.
 
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yn swyddogol mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli yr wythnos nesaf. Ar fore Iau 7 Awst ceir lansiad yn y Lolfa Lên yng nghwmni’r golygydd, Twm Morys, a hefyd Myrddin ap Dafydd a Guto Dafydd, a bydd Geraint Lovgreen a’r Enw Da yno i ganu rhai o ganeuon Iwan. Cyfranwyr eraill y gyfrol y ...

darllenwch mwy

Cytundeb Pro 12 i BBC Cymru a S4C

30/07/2014
Categori: Chwaraeon, Newyddion

Mae BBC Cymru ac S4C wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo cytundeb i rannu gemau Pro12 dros y pedair blynedd nesaf.

Mi fydd y gemau nos Wener i'w gweld ar Scrum V Live ar BBC 2 a gemau prynhawn Sul ar y Clwb Rygbi ar S4C. Fe gafodd cystadleuaeth Ewropeaidd newydd ei chyhoeddi yn ddiweddar ac mi fydd y brwydro yn chwyrn ar gyfer sicrhau lle yn honno ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Saith tîm o'r Pro12 fydd yn cael chwarae yn y Cwpan y Pencampwyr Rygbi Ewropeaidd - y tîm uchaf o bob gwlad a'r tri tim arall sy'n gorffen uchaf yn y tabl.
Yn ôl y cytundeb mi fydd yr hawliau ar gyfer y gemau cynderfynol a'r rownd derfynol yn cael eu rhannu rhwng y darlledwyr os yw un neu fwy o r ...

darllenwch mwy

OPRA Cymru yn Cyhoeddi Cast ar gyfer ...

29/07/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden

OPRA Cymru yn Cyhoeddi Cast ar gyfer Taith 2014


Cyhoeddi Cast ar gyfer Taith 2014

OPRA Cymru yn Cyhoeddi Cast ar gyfer Taith 2014 – Gyda Tri Pherson yn Chwarae Rhan Un Cymeriad
 
Mae OPRA Cymru, yr unig gwmni yn y byd sy’n cynhyrchu operau yn Gymraeg wedi cyhoeddi eu cast ar gyfer yr opra fydd ar daith o amgylch Cymru ym mis Medi 2014 – ONIEGIN, Gaeaf Gobeithion gan Tsiaicofsci, gydag un o’r cymeriadau yn cael ei chwarae gan dri pherson gwahanol.
 
Mae cymeriadau unigol yn cael eu chwarae gan y bariton Matthew Durkan, yn enedigol o Swydd Derby ac sy’n astudio dan gyfarwyddyd Dennis O’Neill yn Academi Llais Rhyngwladol Cymru ac sydd wedi gweithio’n helaeth gyda Opra Cenedlaethol Lloegr; y soprano Stacey Wheeler sydd & ...

darllenwch mwy

Dewch gyda ni ar daith ddigidol Gwefa...

28/07/2014
Categori: Newyddion

Hwre! Mae Lleol.net wedi dod o hyd i Fan a Threlar newydd sbon ac yn fuan iawn fe fyddwn yn dechrau ar ein taith ddigidol ar hyd a lled Cymru.
 
Yn ystod y daith fe fyddwn yn ymweld â phob sir yn eu tro. Fe fydd y daith yn gyfle arbennig i bobol Cymru dangos ei balchder tuag at ei hardaloedd Lleol ac hefyd yn ffordd i bobol eraill cael cyfle i wybod am ardaloedd gwahanol yng Nghymru.
 
Ym mhob sir fe fyddwn yn cwrdd ag yn cyfweld gyda phobol leol, enwogion lleol, edrych ar luniau lleol, hanes lleol, ystadegau lleol ymysg nifer o weithgareddau eraill. Yn ystod y daith fe fydd modd i chi ennill gwobrau hefyd.
 
Felly, dewch gyda ni i grwydro Cymru ac i weld be sydd g ...

darllenwch mwy

Anelu'n Uwch - Ysgol Haf

28/07/2014
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch iawn o gyhoeddi manylion digwyddiad newydd a chyffrous: Anelu’n Uwch. Ysgol haf cyfrwng Cymraeg fydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor yn ystod wythnos 18-22 Awst 2014 ydy Anelu’n Uwch. Anelir yr ysgol at ddysgwyr sy’n bwriadu mynd i Brifysgol, a heb wneud eu ceisiadau eto.
 
Bwriad Anelu’n Uwch ydy rhoi blas o Addysg Uwch i bobl ifanc sy’n ystyried symud ymlaen o Addysg Bellach i Addysg Uwch. Dywed Awen Schiavone, Prif Swyddog y Prosiect: ‘Rydym yn hynod gyffrous am allu cynnig y cyfle hwn i bobl ifanc gael profiadau fydd yn eu paratoi nhw at addysg uwch, a hynny ar safle prifysgol. Bydd y mynychwyr yn datb ...

darllenwch mwy

Gemau'r Gymanwlad - Cymru yn yr 8fed ...

28/07/2014
Categori: Chwaraeon, Newyddion

Gyda Gemau’r Gymanwlad yn y 5ed diwrnod mae Tîm Cymru wedi cael sawl llwyddiant dros y penwythnos ac yn eistedd yn yr 8fed safle yn y tabl medalau. Mae’r tîm wedi ennill 18 medal hyd yn hyn yn cynnwys  2 Aur, 8 Arian a 8 Efydd.

Y gymnastwraig rhythmig Frankie Jones enillodd y fedal aur cyntaf wedi iddi ennill tair arian ar yr un diwrnod. Fe ddaeth yr ail fedal aur trwy Natalie Powell yn y categori dan 78kg yn y Judo. Daeth Powell i’r gemau fel un o’r ffefrynnau a fe ddaeth i’r brig. 

Dros y diwrnodau nesaf byddwn yn gweld Aled Davies yn ceisio am fedal yn y discws a Jazz Carlin yn nofio yn y 800m dull rhydd. Pob lwc i bawb sydd yn cys ...

darllenwch mwy