Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 43 cofnodion | Tudalen 1 o 5

Edrych yn ôl ar 2014

01/01/2015
Categori: Chwaraeon, Iaith, Llenyddiaeth

Edrych yn ôl ar 2014


Band Stand Enwog Aberystwyth yn dilyn y stormydd

Dyma flwyddyn y stormydd, a blwyddyn ble y profodd Gymru un o'r gemau cymanwlad mwyaf llwyddiannus erioed, tra pleidleisiodd pobl yr Alban yn erbyn annibyniaeth ac fe gollwyd un o gewri'r genedl.
 
Dechreuodd 2014 gydag un o'r stormydd gwaethaf erioed, ac fe brofodd Aberystwyth donnau anferth yn taro'r prom, gan achosi dinistr sylweddol. Profodd y tonnau yn drech â'r band stand enwog a gafodd ei ddinistrio'n llwyr. Yn ôl ystadegau’r Swyddfa Dywydd, dyma oedd y gaeaf gwlypaf yng Nghymru ers bron i 250 mlynedd.
 
Cafodd tîm rygbi Cymru bencampwriaeth Chwe Gwlad siomedig ble y daethant yn drydydd, gyda buddugoliaethau yn erbyn Ffrainc, yr Alban a'r Eidal on ...

darllenwch mwy

Galwad ar recriwtio cyn-weithwyr medd...

29/12/2014
Categori: Gwleidyddiaeth, Iechyd

Galwad ar recriwtio cyn-weithwyr meddygol o'r lluoedd arfog i'r Gwasanaeth Iechyd


Recriwtio Cyn-swyddogion meddygol

Mae Plaid Cymru wedi galw ar recriwtio gweithwyr sydd â hyfforddiant meddygol ac sydd wedi colli eu swyddi yn y lluoedd arfog i reng flaen GIG Cymru.
 
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones mai colli cyfle fyddai peidio â denu gwasanaeth y gweithwyr meddygol proffesiynol sydd wedi derbyn yr hyfforddiant gorau ac sydd â record o arwain dan amgylchiadau anodd.
 
Canfu cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth diweddar gan Blaid Cymru fod pedwar ugain o weithwyr meddygol milwrol wedi colli eu swyddi yn dilyn toriadau llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ers 2010. Mae’r ffigwr hwn yn debyg o godi wedi i filwyr y DG adael Afghanistan.
 
Dywedodd Gwein ...

darllenwch mwy

Eira ar Ŵyl San Steffan yn ôl y Swydd...

26/12/2014
Categori: Newyddion

Eira ar Ŵyl San Steffan yn ôl y Swyddfa Dywydd


Eira ar Ddydd Gŵyl San Steffan

Ni welwyd Nadolig gwyn eleni, ond mae posib y gwelwn drwch o eira mewn rhannau o Gymru ar Ŵyl San Steffan. 

Yn ôl y Swyddfa Dywydd,  disgwylir i eira, eirlaw a glaw ledu dros Gymru i gyd yfory, gan glirio dros nos. Mae yna rybudd melyn ar gyfer y gogledd, y canolbarth, a rhannau o'r de ddwyrain drwy'r dydd, lle y rhagwelir y bydd eira yn disgyn.
 
Mae yna ansicrwydd am faint o eira a ddaw, ond mae'n bosib y cawn hyd at 10 centimedr yn y mannau hynny, gyda pheryg o rywfaint yn disgyn ar dir isel. Wrth i'r eira glirio gyda'r nos, mae disgwyl iddi rewi'n galed. Mae'r swyddfa dywydd yn eich rhybuddio i gymryd gofal os byddwch yn bwriadu teithio yfory.  

Mentrwch allan dros y Nadolig i roi h...

24/12/2014
Categori: Hamdden, Iechyd

Gall cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru wneud mwy na’ch adfywio neu gynnig rhywle gwych ichi fynd am dro – oherwydd mae adroddiad newydd yn dangos y gall helpu pobl i fyw’n hŷn.
 
Gyda mwy na 23,000 o gerddwyr ar gyfartaledd yn defnyddio’r llwybr bob wythnos, mae’r adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi darganfod y gall yr hyn sy’n gyfwerth â saith o fywydau gael eu hachub bob blwyddyn.
 
Mae’r buddion iechyd yn sgil gweithgarwch corfforol yn werth £18.3m y flwyddyn; felly nid yn unig mae cerdded Llwybr yr Arfordir yn dda i chi, ond mae hefyd yn dda i Gymru i gyd.
 
Meddai Sue Rice, Rheolwr Prosiect Llwybr Arfor ...

darllenwch mwy

Pa un yw eich hoff gân Nadolig?

23/12/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth

Pa un yw eich hoff gân Nadolig?


Ysbryd y Nadolig

I ddathlu'r Nadolig, rydym yn Lleol.Cymru wedi dethol rhai o ganeuon Cymraeg mwyaf cofiadwy'r Nadolig a rhai efallai sydd ddim mor gofiadwy! Mae gan Gymru draddodiad hir o ganeuon Nadoligaidd yn olrhain i'r traddodiad canu Plygain yn y ddeunawfed ganrif. Un o'r caneuon plygain cofiadwy yw Ar gyfer Heddiw'r Bore faban bach, gyda llawer o gymunedau yn parhau i gynnal gwasanaethau Plygain ledled Cymru.
 
Ond bellach, mae gennym hefyd glasuron modern wedi'u creu gan artistiaid blaenllaw yn amrywio o Meic Stevens i Garyl Parri Jones. Pa un yw eich hoff gân chi?  
 

Dyma restr o 10 uchaf Lleol.cymru: 
 
1. Dyma ni yn rhif 1 -  y dewin o Solfach, Meic S ...

darllenwch mwy

Detholiad o Goed Nadolig

21/12/2014
Categori: Hamdden

Detholiad o Goed Nadolig


Coeden Nadolig Caerdydd

Daeth y traddodiad o addurno coeden Nadolig i Brydain trwy'r Tywysog Albert oedd yn ŵr i frenhines Fictoria. Roedd Albert yn hanu o'r Almaen ac yn perthyn i deulu brenhinol  Saxe-Coburg sydd â chysylltiadau clos gyda theulu Windsor.  Roedd y traddodiad o osod coeden Nadolig yn yr Almaen yn arfer poblogaidd yng ngogledd y wlad lle roedd yn gysylltiedig gyda arferion protestanaidd.  
 
Ym Mhrydain, cofleidiodd y dosbarth canol yr arferiad yn oes Fictoria ac fe ddaeth yn draddodiad tu hwnt o boblogaidd. Erbyn heddiw, mae'r goeden yn ganolog i ddathliadau llawer o deuluoedd dros y byd, yn cynnwys Cymru.  A dyma ni isod gynnig anrhydeddus sawl aelwyd yng Nghymru o ...

darllenwch mwy

Ffotograffwyr y dyfodol yn cael eu gw...

18/12/2014
Categori: Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden

Ffotograffwyr y dyfodol yn cael eu gwobrwyo


llun Sheryl Ewe 17 oed o Fro Morgannwg

Daeth chwech o bobl ifanc i'r brig o blith 200 o geisiadau trwy Gymru ar ôl llwyddo i grisialu’r enghreifftiau gorau o amgylchedd Cymru drwy'r lens.
 
Cafodd yr enillwyr werth £450 o dalebau siopau’r stryd fawr. Testun y gystadleuaeth oedd dangos eu ffrindiau yn mwynhau’r amgylchedd naturiol ar gyfer cystadleuaeth ffotograffiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
 
Yn y categori cyntaf, i blant 11 oed neu iau, Jacob Pearce, 10 oed, o Ysgol Gynradd y Santes Fair a Sant Padrig, Maesteg, Pen-y-bont Ar Ogwr, a gipiodd y wobr gyntaf gyda’r llun llawn awyrgylch hwn o farcud yn cael ei hedfan ar draeth â chymylau yn gefndir.  Roedd y beirniaid ...

darllenwch mwy

Prifysgolion Cymru yn rhagori

18/12/2014
Categori: Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Prifysgolion Cymru yn rhagori


Prifysgol Caerdydd yn dod i'r brig

Cafodd rhestr anrhydeddus o'r prifysgolion sy'n rhagori mewn ymchwil eu cyhoeddi heddiw gyda Phrifysgol Caerdydd yn dod i'r brig ymhlith prifysgolion Cymru.
 
Daeth Prifysgol Caerdydd yn bumed ar y rhestr trwy Brydain sy'n cydnabod rhagoriaeth ar raddfa ryngwladol mewn meysydd ymchwil. 
 
Croesawodd yr Athro Amanda Coffey ran Prifysgol Caerdydd y cyhoeddiad: "Rydym wrth ein boddau fod ein hymchwil wedi dod mor uchel ar y rhestr. Rydym yn hynod falch am y gydnabyddiaeth o safon mewn meysydd ymchwil."
 
Ychwanegodd, "O blith uchafbwyntiau'r ymchwil yw'r modd yr ydym wedi datblygu rhaglen wrth ysmygu ar gyfer ysgolion ym Mhrydain er mwyn taclo'r cynnydd mewn ysmygwyr y ...

darllenwch mwy

Ail ddarlledu'r Tebot Piws i gofio Sb...

17/12/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Ail ddarlledu'r Tebot Piws i gofio Sbardun


Ail ddarlledu rhaglen Tebot Piws i gofio Sbardun

Bydd S4C yn darlledu rhaglen am y grŵp pop eiconig, y Tebot Piws yn deyrnged i Alun ‘Sbardun’ Huws fu farw yn gynharach yr wythnos hon.  Dyma fand sydd wedi dal dychymyg pobl Cymru dros y blynyddoedd, lle roedd Sbardun yn rhan annatod o'r hwyl.  
 
Ac wrth wneud y cyhoeddiad, fe ddywedodd Dafydd Rhys ar ran S4C bod Cymru wedi colli gŵr a fu’n gawr yn y byd adloniant a theledu yng Nghymru dros y pum degawd diwethaf.

Roedd Alun ‘Sbardun’ Huws yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp pop wnaeth gymaint o argraff ar y byd cerddorol Cymraeg yn y 1960u a 1970au. Bu’r gŵr o Benrhyndeudraeth, Gwynedd hefyd yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm.

Fe f ...

darllenwch mwy

Sêl bendith brenhinol i bwerau trethi...

17/12/2014
Categori: Gwleidyddiaeth, Newyddion

Sêl bendith brenhinol i bwerau trethi newydd y Cynulliad


Pwerau trethi newydd i Gymru

Croesawodd Prif Weinidog Carwyn Jones y cydsyniad brenhinol a roddwyd heddiw sy'n rhoi sêl bendith ar ddatganoli pwerau ariannol newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol.  Am y tro cyntaf ers yr oesoedd canol, bydd gan Gymru drefn ar wahân ym maes treth.

Bydd Deddf Cymru 2014 fel y gelwid yn cynnig pwerau ariannol newydd i Gymru drwy ganiatáu'r Cynulliad Cenedlaethol i ddatblygu trethi Cymreig i gymryd lle treth dir, y dreth stamp a threth tirlenwi'r Deyrnas Uniedig. 
 
Bydd y ddeddf  yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fenthyg hyd at £500 miliwn i’w fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf, a benthyg hyd at £500 miliwn arall i ymdrin â ...

darllenwch mwy