Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 1 cofnod | Tudalen 1 o 1

Rhun ap Iorwerth wedi ei ethol yn Ael...

02/08/2013
Categori: Gwleidyddiaeth

Rhun ap Iorwerth wedi ei ethol yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn


Rhun ap Iorwerth wedi ei ethol yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn

Rhun; "Rwan mae'r gwaith caled yn dechrau" - buddugoliaeth ysgubol i Blaid Cymru yn Ynys Môn.
 
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi diolch i bobl Ynys Môn wrth gael ei ethol i'r Cynulliad ac wedi addo gweithio'n galed ar eu rhan.
 
Enillodd yr AC newydd, a gafodd ei fagu ar yr Ynys lle y mae'n dal i fyw gyda'i deulu, yr etholiad gyda mwyafrif llethol o 9,166 (58%) .
 
Dywedodd AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth:
 
"Dwi wrth fy modd fod pobl Ynys Môn wedi rhoi eu ffydd ynof i i'w cynrychioli yn y Cynulliad.
 
"Mae'r gwaith go iawn yn dechrau heddiw. Dwi'n teimlo'n angerddol dros adeiladu dyfodol disgleiriach i bobl yr Ynys ...

darllenwch mwy