Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 12 cofnodion | Tudalen 1 o 2

App newydd ar gyfer Y Sioe Frenhinol

18/07/2013
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Newyddion

App newydd ar gyfer Y Sioe Frenhinol


App newydd ar gyfer Y Sioe Frenhinol

Map, digwyddiadau, cystadlaethau a chanlyniadau.  Mae S4C wedi rhyddhau app newydd er mwyn sicrhau na fyddwch chi’n colli dim o gyffro'r Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd eleni.
 
Mae App Sioe Frenhinol Cymru yn cynnwys map rhyngweithiol o faes y Sioe fydd yn ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i bob atyniad a stondin ar y maes. Mae hefyd yn cynnwys amserlen lawn o holl ddigwyddiadau a chystadlaethau'r diwrnod a bydd modd i chi lunio eich amserlen eich hun hefyd, i sicrhau nad ydych yn methu'r un digwyddiad.
 
Mae'r app dwyieithog hefyd yn cynnwys canlyniadau diweddaraf y cystadlaethau, gwybodaeth tywydd a thraffig ac adran gyfryngau fydd yn casglu lluniau, straeon ...

darllenwch mwy

Trac rasio yn mynd yn ei flaen

10/07/2013
Categori: Chwaraeon, Newyddion

Trac rasio yn mynd yn ei flaen


Trac rasio yn mynd yn ei flaen

Mae cynghorwyr Blaenau Gwent wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid adeiladu trac rasio ger Glyn Ebwy.
 
Yn ôl rhai, gallai arwain at tua 1,500 o swyddi uniongyrchol a 500 o swyddi adeiladu.
 
Mae'r datblygwyr eisiau gwario £280m ar adeiladu'r trac ar 830 o aceri ger Stad Ddiwydiannol Rasa yng Nglyn Ebwy.
 
Roedd rhai wedi dweud eu bod yn poeni am effaith y trac ar yr amgylchedd.
 
Pencampwriaethau
 
Yn ôl y datblygwyr, fe fydd y trac yn medru cynnal pencampwriaethau fel y MotoGP a'r World Touring Car.
 
Yn ogystal mae cynlluniau ar gyfer adnoddau motocrós, cartio a chylchedau ar gyfer cerbydau sy'n cael eu gyrru gan bedair olw ...

darllenwch mwy

Rhun ap Iorwerth - Llais Lleol Cryf d...

09/07/2013
Categori: Gwleidyddiaeth, Newyddion

Rhun ap Iorwerth - Llais Lleol Cryf dros Ynys Môn (FIDEO)


Llais Lleol Cryf dros Ynys Môn

Cliciwch ar y fideo i glywed sut rwyf am ddefnyddio fy mhrofiad, fy egni a fy nghariad at Fôn i weithio dros ddyfodol mwy llewyrchus i’r Ynys.
 
 
 
 
 
 
 
 
 



 
 
Ffynhonnell: Gwefan Plaid Cymru

Her fusnes 24 awr ar gyfer entreprene...

09/07/2013
Categori: Arian a Busnes

Her fusnes 24 awr ar gyfer entrepreneuriaid ifanc


Her fusnes 24 awr ar gyfer entrepreneuriaid ifanc

Mae Prosiect Mentro Cynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr wedi trefnu her fusnes 24 awr ar gyfer entrepreneuriaid ifanc Sir Gâr wledig. Bydd y sesiwn yn cyrraedd ei huchafbwynt wrth i syniadau gael eu cyflwyno mewn arddull Dragon’s Den a bydd y cyflwyniad gorau’n ennill £2500 i’w fuddsoddi yn ei fusnes.
 
Mae’r gystadleuaeth yn agored i unigolion neu dimau 16-30 oed sydd wedi’u lleoli yn Sir Gâr wledig. Mae’r siaradwyr yn cynnwys cyflwynydd S4C Heledd Cynwal, Kees Huysman o Tregroes Waffles a Diana Vickers o Best of Carmarthenshire a byddant yn Neuadd Llanarthne yn rhoi syniadau ac awgrymiadau ar bopeth o rwydweithio a chyfryngau ...

darllenwch mwy

Mesur Rhoi Organau'n cael ei gymeradwyo

03/07/2013
Categori: Iechyd, Newyddion

Mesur Rhoi Organau'n cael ei gymeradwyo


Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld cynnydd yn nifer yr organau sy'n cael eu rhoi

Mae'r cynulliad wedi cytuno i newid y system roi organau yng Nghymru.
 
Bydd y newidiadau'n cael eu gweithredu yn 2015 - o hynny ymlaen bydd llywodraeth yn tybio bod caniatâd ar gyfer rhoi organau yn cael ei roi os nad yw unigolyn yn nodi ei wrthwynebiad i hynny.
 
Cymru yw'r wlad gyntaf o fewn y Deyrnas Unedig i fabwysiadu polisi o'r fath.
 
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y Mesur Rhoi Organau yn achub bywydau drwy gynyddu'r nifer o organau sydd ar gael i'w defnyddio 25%.
 
Dadl rhai sy'n gwrthwynebu yw mai'r teulu ac nid y llywodraeth ddylai benderfynu os dylid cymryd organau gan rywun sydd wedi marw.
 
Fe wnaeth 43 aelod bleidleisio o blaid y ...

darllenwch mwy

Materion y Mis - Carafán mewn cwr o f...

02/07/2013
Categori: Newyddion

Materion y Mis - Carafán mewn cwr o fynydd – yn barhaol?


Materion y Mis - Carafán mewn cwr o fynydd – yn barhaol?

Mae’n ffaith gydnabyddedig ar lawr gwlad fod yna bobl yn byw mewn meysydd carafanau yn groes i’r rheolau. Nodir yn aml bod y bobl yma’n mynd ar eu gwyliau i Sbaen neu Malta neu fynd i weld perthnasau yn ystod y cyfnod hwnnw yn y gaeaf pan fydd y meysydd wedi cau.
 
Yn lled ddiweddar, mae perchnogion meysydd carafanau, gyda chymorth asiant yn aml, wedi bod yn gwneud ceisiadau cynllunio i gael cadw’r safloedd ar agor drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na’r 46 wythnos y flwyddyn a ganiateir gan eu trwydded. Mewn sawl achos yn Sir Fflint a Sir Ddinbych (a mannau eraill) bu gwrthwynebiad i’r ceisiadau yma a’r pwyllgorau cynllunio yn eu gwrthod. Ond ...

darllenwch mwy

Golygydd Rhaglenni newydd Radio Cymru...

02/07/2013
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Golygydd Rhaglenni newydd Radio Cymru yn addo gwrando


Mae Betsan Powys yn dweud bod rhaid deall mwy am gynulleidfa Radio Cymru cyn dechrau meddwl am newid

Mae Golygydd Rhaglenni newydd Radio Cymru wedi dweud y bydd yn gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud am yr orsaf cyn cyflwyno newidiadau.
 
Wrth siarad ar y Post Cyntaf ar ei diwrnod cyntaf yn y swydd, cyfeiriodd Betsan Powys at y sgwrs sy'n cael ei chynnal er mwyn cael clywed barn pobl am y gwasanaeth.
 
"Mae'n weddol amlwg am wn i mai'r peth cyntaf y byddai unrhyw olygydd newydd yn ei wneud yw gwrando, a dal i holi, a dal i wrando, oherwydd does dim llawer o bwynt cynnal sgwrs, dim llawer o bwynt mynd i'r afael ag ymchwil fel y'n ni wedi neud dros y misoedd diwethaf, heblaw bod rhywun wedyn yn gwrando, ac yn dadansoddi ac yn penderfynu wedyn ar gyfeiriad clir.
 
Fy ...

darllenwch mwy

Cynigion arbennig Eisteddfod Genedlae...

02/07/2013
Categori: Newyddion

Cynigion arbennig Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar gyfer carafanio a gwersylla


Cynigion arbennig ar gyfer carafanio a gwersylla

Cynnig arbennig carafanio 4 noson
 
Eleni am y tro cyntaf, mae’r Eisteddfod wedi penderfynu cynnig pecyn arbennig munud olaf ar gyfer unrhyw un sydd am ddod yn y garafán am ail hanner yr wythnos.
 
Rydym eisoes yn darparu cynnig tebyg ar gyfer unrhyw un sydd am ddod mewn pabell o’r nos Fercher ymlaen, ac felly eleni, bydd hwn yn cael ei ehangu i gynnwys carafanau hefyd.
 
Gellir archebu a thalu am y cynnig yma, ac yna byddwn yn ebostio y ffurflen archebu atoch i’w llofnodi. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i’r rheini sydd am aros yn y maes carafanau trwy gydol yr wythnos, a bydd y cynnig arbennig yn cynnwys nos Fercher, Iau, Gwener a Sadwrn ...

darllenwch mwy

Cynnydd yn yr Arfer o Ddarllen Llyfra...

02/07/2013
Categori: Adolygiadau Llyfrau, Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Cynnydd yn yr Arfer o Ddarllen Llyfrau Cymraeg


Cynnydd yn yr Arfer o Ddarllen Llyfrau Cymraeg

Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gan gwmni Beaufort Research ar ran Cyngor Llyfrau Cymru, gwelwyd fod mwy o bobl yn darllen llyfrau Cymraeg heddiw o’u cymharu â chanlyniad arolwg tebyg a gynhaliwyd yn 2003. Allan o’r 1,008 o siaradwyr Cymraeg a holwyd, mae 43% yn darllen o leiaf un llyfr y flwyddyn, o’u cymharu â 31% yn 2003 a 26% yn 2006. Bu cynnydd hefyd yn y nifer sy’n darllen o leiaf un llyfr Cymraeg bob mis – o 13% yn 2003 i 19% yn 2012.
 
Fel y byddid yn disgwyl, mae’r ffigur ar gyfer y rhai sy’n rhugl eu Cymraeg yn uwch eto, gyda 61% yn darllen o leiaf un llyfr Cymraeg y flwyddyn. Yn yr ardaloedd Cymraeg mae’r rhai sy ...

darllenwch mwy

Penodi Huw Aled Jones yn ddarpar benn...

02/07/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Penodi Huw Aled Jones yn ddarpar bennaeth technegol yr Eisteddfod


Huw Aled Jones

Heddiw (01/07/2013), cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol benodiad Huw Aled Jones yn ddarpar bennaeth technegol y sefydliad.
 
Gyda blynyddoedd lawer o brofiad fel rheolwr cynhyrchu, technegol a llwyfan yn y byd darlledu ac mewn digwyddiadau byw o bob math yng Nghymru a thu hwnt, bydd Huw Aled yn cychwyn ar ei swydd ar 1 Medi, gan olynu Alan Gwynant a fydd yn rhoi’r gorau i weithio’n llawn amser i’r Eisteddfod ddiwedd mis Medi.
 
Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Rwy’n hynod falch ein bod wedi penodi Huw Aled Jones yn ddarpar bennaeth technegol. Mae ganddo brofiad arbennig yn y maes, ac yn sicr fe fydd yn adeiladau ar y seiliau ...

darllenwch mwy