Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 7 cofnodion | Tudalen 1 o 1

Gwobr T Llew Jones: Bethan Gwanas yn ...

18/06/2013
Categori: Celfyddydau, Iaith

Gwobr T Llew Jones: Bethan Gwanas yn 'enillydd teilwng'


Roedd gofyn i gystadleuwyr ysgrifennu pennod o stori antur yn arddull y diweddar T Llew Jones

Mae'r awdures Bethan Gwanas wedi ennill Gwobr Goffa T Llew Jones.
 
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio'r llynedd, gan roi cyfle i awduron newydd a phrofiadol gyflwyno pennod o stori antur i blant 10-12 oed yn nhraddodiad nofelau antur T Llew Jones.
 
Roedd gofyn hefyd gyflwyno crynodeb syml o weddill y stori.
 
Mae'r gystadleuaeth yn rhan o'r dathliadau a gynhelir yn flynyddol gan ysgolion ledled Cymru i goffáu'r awdur a fu farw yn 2009.
 
Cafwyd ymateb rhagorol i'r gystadleuaeth, gydag 19 o ymgeiswyr.
 
'Teilwng iawn'
 
Wrth gyhoeddi'r enillydd, dywedodd Owenna Davies, Cadeirydd y Gronfa Goffa: ''Wrth longyfarch Bethan, rydym yn ymwybodol iawn ...

darllenwch mwy

Swydd newydd i Ieuan Wyn Jones

18/06/2013
Categori: Newyddion

Swydd newydd i Ieuan Wyn Jones


Arweiniodd Ieuan Wyn Jones ei blaid i mewn i glymblaid gyda Llafur yn 2007

Mae cyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi cyhoeddi'n swyddogol y bydd yn rhoi'r gorau iddi fel Aelod Cynulliad Môn er mwyn helpu i "greu gwell economi i Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru".
 
Bydd ei benderfyniad yn arwain at gynnal is-etholiad ar yr ynys.
 
Cyhoeddodd Mr Jones y bydd yn gadael i fod yn brif weithredwr Parc Gwyddoniaeth Menai, fydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth.
 
Cafodd y cyllid o £10 miliwn i sefydlu'r fenter ei gymeradwyo fel elfen o'r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru er mwyn pasio cyllideb Llywodraeth Cymru yn Nhachwedd 2012.
 
Yn gynharach eleni, cyhoe ...

darllenwch mwy

Y Llewod yn colli am y tro cyntaf

18/06/2013
Categori: Chwaraeon, Newyddion

Y Llewod yn colli am y tro cyntaf


Cafodd Shane Williams ychydig iawn o gyfle i greu argraff wrth ddychwelyd i dîm y Llewod

ACT Brumbies 14-12 Llewod Prydain ac Iwerddon
 
Roedd sawl un wedi darogan mai hon fyddai gêm anodda'r Llewod heblaw'r gemau prawf yn erbyn Awstralia, ac felly y profodd hi.
 
Bu beirniadaeth o benderfyniad Warren Gatland i alw Shane Williams at y garfan, ond y dewin bach oedd yr agosaf at sgorio cais i'r Llewod yn y cyfnod cynnar. Cafodd Shane ei daclo llathen yn brin o'r llinell gais wedi llai na dau funud o chwarae.
 
Roedd yr asgellwr yn ymddangos yng nghrys y Llewod am y deuddegfed tro yn ei yrfa, ond roedd un oedd yn gwisgo'r crys am y tro cyntaf yn cael bedydd tân ar yr asgell arall.
 
Cafodd Christian Wade ei alw i'r garfan oherwydd anafiadau, ...

darllenwch mwy

Angen dyfodol sicr i Tafwyl

13/06/2013
Categori: Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Angen dyfodol sicr i Tafwyl


Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw yn rhoi grant o £20,000 i Tafwyl eleni

Mae nifer o Gymry Cymraeg adnabyddus wedi llofnodi llythyr at gyngor Caerdydd yn gofyn iddynt ail ystyried toriadau i wasanaethau Cymraeg.
 
Mae cynnwys y llythyr yn mynegi pryder bod cyllideb menter iaith y brifddinas wedi ei chwtogi a dyfodol gŵyl Tafwyl ddim yn sicr.
 
Fe ddywedodd y cyngor ddechrau'r flwyddyn ei fod yn ystyried torri'r cymhorthdal yr oedden nhw wedi bod yn rhoi i'r ŵyl Gymraeg. Yr angen i wneud arbedion oedd y rheswm medden nhw.
 
Ond fe benderfynodd Llywodraeth Cymru rhoi grant o £20,000 i Tafwyl eleni.
 
Atal ffyniant iaith

Noda'r llythyr bod y Gymraeg wedi ennill tir yng Nghaerdydd a bod twf addysg Gymraeg yn yr ardal yn brawf o hy ...

darllenwch mwy

Ymchwil Annibynnol: Gwerth Economaidd...

13/06/2013
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes

£1 o arian i S4C yn golygu bron i £2 i Economi Cymru
 
Mae S4C wedi datgelu bod astudiaeth economaidd wedi dangos bod pob punt y mae’r sianel yn ei wario ar gynnwys yn creu bron i ddwy bunt o werth ychwanegol i economi Cymru.
 
Yn ôl cwmni Arad sydd wedi cwblhau’r gwaith ymchwil, mae pob £1 o wariant S4C yn y diwydiannau creadigol yn creu effaith economaidd o £1.95 ar y diwydiannau hynny yng Nghymru.
 
Roedd y gwaith ymchwil wedi’i gomisiynu gan S4C fel rhan o’r broses o fesur llwyddiant ac effeithlonrwydd y sianel.
 
Yn ôl Prif Weithredwr S4C, mae’r ymchwil yn dangos bod S4C yn chwarae rôl bw ...

darllenwch mwy

Wythnos Ddigidol Caerdydd

13/06/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Iaith

Wythnos Ddigidol Caerdydd
24 - 27 Mehefin, 2013Sgyrsiau, hyfforddiant a digwyddiadau am ddim ar gyfer y diwydiannau creadigol a digidolCynhelir gan Ganolfan Mileniwm Cymru
 
Bydd Wythnos Ddigidol Caerdydd yn dwyn ynghyd y talent gorau yn y sectorau cyhoeddus, preifat, addysgol a hyfforddiant i archwilio arloesedd, cyfleoedd a syniadau newydd ar draws yr holl sbectrwm digidol. Caiff y digwyddiad ei arwain gan nifer o bartneriaid, yn cynnwys BBC Cymru Wales, S4C, Cyngor Caerdydd, Creative Skillset Cymru, BAFTA Cymru, Academi Cyfryngau Cymru a Llywodraeth Cymru.
 
Bydd uchafbwyntiau’r wythnos yn cynnwys Diwrnod Dyfodol Digidol, a fydd yn edrych ar sut beth fydd darlledu dig ...

darllenwch mwy

Wythnos Wych i’r Urdd yn Sir Benfro

03/06/2013
Categori: Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi iddynt gael wythnos wych gyda phopeth wedi mynd yn hwylus.
 
Roedd 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos, gyda bron i 500 o wirfoddolwyr yn stiwardio.  Gosodwyd 2,316  o dracfyrddau i gynorthwyo traffig a cherddwyr o amgylch y safle a defnyddiwyd 710 medr o geblau trydan, yr un faint â sydd ei angen i bweru pentref bychan.
 
Un o’r llwyddiannau oedd yr ap, grewyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod, diolch i gefnogaeth S4C.  Mae dros 11,000 wedi lawrlwytho’r ap ers ei lansio 10 diwnrod yn ôl, 90% o’r defnyddwyr wedi rhoi 5 seren iddo ac yn ystod yr ...

darllenwch mwy