Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 6 cofnodion | Tudalen 1 o 1

Adolygiad llyfr 'Dim'

19/09/2012
Categori: Adolygiadau Llyfrau

Mae Gwyn ac Owain yn dilyn llwybrau gwahanol yn hynny o beth: Owain yn cydymffurfio â threfn Dyn a thrwy hynny'n dod i fyny yn erbyn grym Natur: Gwyn yn gwrthryfela yn erbyn trefn Dyn ac yn dysgu cydymffurfio â threfn Natur.
 
Mae Owain yn cael ei ddinistrio am gydymffurfio â threfn sydd yn ei hanfod yn ddinistriol. Mae Gwyn yn dysgu ei le. Rydym ni i gyd yn Ddim sut bynnag y byddwn ni'n byw, ond mae mwy nac un math o Ddim.
 
Mae'r stori'n seiliedig ar ddigwyddiadau gwir y cyfnod rhwng yr 1960au a'r 1990au, gan gynnwys sefyllfa Gogledd Iwerddon a gwasanaethau cudd Prydain y cyfnod hwnnw.
 

 
Gobeithiai'r nofel godi cwestiynau ym meddyliau pobl ...

darllenwch mwy

Adolygiad albym 'Ffydd Gobaith Cariad...

19/09/2012
Categori: Adolygiadau Cerddoriaeth

Yn dilyn ei llwyddiant yn 2010, pan gipiodd deitl Artist Benywaidd y Flwyddyn yng ngwobrau RAP Radio Cymru, mae Fflur Dafydd yn ôl, gyda albym o fath gwahanol iawn. Mae “Ffydd Gobaith Cariad,” yn gasgliad o ganeuon myfyriol, hardd, a thelynegol, sy’n debycach i albym gyntaf y gantores na’r caneuon pop a gawsom ganddi dros y blynyddoedd diwethaf. Thema’r albym ydy pobl – ac mae’r gantores yn ei ddisgrifio fel math o “goeden deuluol ar gân” sy’n ein cyflwyno i gymeriadau lliwgar a dylanwadol ei bywyd.
 
“Ers bron i ddegawd bellach dwi wedi bod yn ‘sgwennu caneuon er cof am bobol pwysig yn fy mywyd, ac i ...

darllenwch mwy

Cyhoeddi trwydded sianel leol

19/09/2012
Categori: Ar-lein, Newyddion

Cyhoeddi trwydded sianel leol


Dywed Ofcom y bydd sianeli newydd yng Nghaerdydd, Bryste a Norwich

Caerdydd fydd y lle cyntaf yng Nghymru i gael gwasanaeth teledu lleol.

Cafodd y drwydded ei chyhoeddi ddydd Mercher, ymhlith yr ail set o drwyddedau i gael eu cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r trwyddedau newydd ar gyfer sianeli teledu daearol digidol yng Nghaerdydd, Bryste a Norwich.

Cais TV Ltd, un gafodd ei arwain gan gyn reolwr gyfarwyddwr Barcud Derwen, Bryn Roberts, oedd yn llwyddiannus.

Made in Cardiff fydd enw'r sianel fydd yn gwasanaethu Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â'r brifddinas.

Dywedodd Mr Roberts wrth BBC Cymru ei fod yn gobeithio y bydd y sianel newydd yn darlledu "rywbryd y flwyddyn nesaf".

Ei dîm fydd yn gyfrifol am y cynnwys ond ...

darllenwch mwy

Goleuo'r Gogledd 2012

13/09/2012
Categori: Arian a Busnes

Goleuo'r Gogledd 2012 Dydd Gwener, 2il Tachwedd - Venue Cymru, LlandudnoMae cynhadledd Goleuo'r Gogledd wedi tyfu i fod yn un o'r digwyddiadau yng nghalendr busnes y rhanbarth y dylech, heb os, ei mynychu. Nod y diwrnod yw ysbrydoli, addysgu a dod â busnesau a mudiadau ynghyd i greu partneriaethau buddiol er mwyn tyfu a ffynnu.Yn ystod y digwyddiad undydd hwn roddir cyfle i fynychwyr ganolbwyntio ar eu busnesau ac maent yn gadael wedi’u harfogi â syniadau arloesol, sgiliau a gwybodaeth newydd ynghyd â llwyth o gysylltiadau gwerthfawr.Ymunwch â ni i ddysgu sut y gallwch barhau i fod yn gystadleuol, wella eich perfformiad a chanfod ffyrdd newydd o weithio mewn eco ...

darllenwch mwy

Dathlu gyda Rhywbeth i Bawb yr hydref...

11/09/2012
Categori: Addysg, Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Mae mis Tachwedd 2012 yn garreg filltir bwysig yn hanes darlledu yn yr iaith Gymraeg wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.Yn flaenllaw yn yr amserlen yr hydref hwn mae rhaglenni i ddathlu'r achlysur. Byddwn yn edrych yn ôl ar hanes y Sianel ac yn hel atgofion am hoff raglenni'r degawdau.Un o’r rhaglenni yw drama ddogfen am benderfyniad yr arweinydd gwleidyddol a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans i fygwth ymprydio hyd farwolaeth yn yr ymgyrch dros sianel Gymraeg.Mae Gwynfor, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd T James Jones, yn ail-greu blwyddyn dyngedfennol ym mywyd Gwynfor Evans, gyda'r actor Aneirin Hughes yn portreadu Gwynfor.Ym mis Medi 1979, fe wnaeth Llywodraeth Ge ...

darllenwch mwy

Gorwelion Graddedigion yng Nghanolfan...

05/09/2012
Categori: Celfyddydau

Bwriad y Ganolfan yw cynnig rhywbeth i’w hymwelwyr ei fwynhau bob tro maen nhw’n dod trwy’r drysau, ac mae ei harddangosfeydd yn rhan hanfodol bwysig o’r dyhead hwnnw. Y penwythnos yma mae arddangosfa newydd yn agor sy’n rhoi llwyfan i artistiaid addawol byd y celfyddydau gweledol. Mae Graddedig yn gasgliad o waith gan raddedigion y celfyddydau gweledol o brifysgolion ledled Cymru. Comisiynodd y Ganolfan yr artist, curadur a darlithydd profiadol, Peter Finnemore, i ddewis gwaith gan fyfyrwyr graddedig yng Nghymru i’w arddangos ar waliau ac yng nghyntedd y Ganolfan.
 
Aeth Peter ati i ymweld â sioeau gwaith gradd ledled Cymru a dewis y gwaith g ...

darllenwch mwy