Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 2 cofnodion | Tudalen 1 o 1

A oes gennych chi syniad busnes?

22/06/2012
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Hoffech chi’r cyfle i ennill £7,000 allai helpu droi’r syniad yn realiti?
 
Ydych chi’n barod i brofi eich syniad o flaen panel o bobl busnes?
Mae Menter a Busnes ar y cyd â Llywodraeth Cymru a gyda chymorth Telesgôp yn trefnu’r gystadleuaeth hon ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd am fyw a gweithio yng Nghymru.
Bydd y seremoni wobrwyo yn digwydd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morganwg ar ddydd Mercher yr 8fed o Awst am 11.30 o’r gloch. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw’r 6ed o Orffennaf 2012
 
 

 
Enillwyr Gorsedd y Dreigiau 2011 - Saloni
 

 
Cliciwch yma i gael rhagor o wyboda ...

darllenwch mwy

Gŵyl Tafwyl - Rhwng 22 -29 Mehefin 2012

14/06/2012
Categori: Celfyddydau

Sefydlwyd Menter Caerdydd yn Mehefin 1998, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd drwy greu cyfleoedd i drigolion y ddinas ddefnyddio’r iaith tu allan i oriau gwaith a muriau’r ysgol. Tafwyl yw’r ŵyl flynyddol a sefydlwyd gan y Fenter yn 2006 i ddathlu defnydd o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.

Sefydlwyd yr ŵyl yn dilyn gofynion trigolion Caerdydd am ŵyl i godi proffil y Gymraeg yn y brifddinas. Mae’r twf yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd yn anhygoel gyda symudiad o 18,000 o siaradwyr yn 1999 i 32,500 yn 2001. Bydd codiad eto yn sicr yn ffigyrau’r cyfrifiad am 2011 ac mae rhai yn darogan byd ...

darllenwch mwy