Arbenigwr gwleidyddol yn craffu ar ganlyniad dau refferendwm ac etholiad cyffredinol

17/04/2018

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Bydd yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd yn traddodi Darlith O’Donnell Prifysgol Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Lun 30 Ebrill 2018.

Dan y teitl ‘Cenhedloedd, Cenedlaetholdebau a Gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol’, bydd y ddarlith yn ystyried canlyniadau refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, etholiad cyffredinol San Steffan 2015, refferendwm Brexit 2016 ac etholiad cyffredinol San Steffan 2017.

 

Bydd yr Athro Richard Wyn Jones yn dadansoddi tueddiadau’r cyfnod ac yn holi pam nad fod cynnifer o sylwebwyr ac ysgolheigion wedi methu proffwydo sut y byddai pobl mewn gwahanol genedlaetholdebau gwleidyddol yn pleidleisio.

 

Sigo Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr

 

“Mae’n fraint cael traddodi Darlith O’Donnell ac fe fyddai’n defnyddio’r cyfle i graffu ar gyfres o ganlyniadau sydd wedi sigo Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i’w seiliau yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai’r Athro Jones sy’n Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ac yn Athro Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

Bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30yh ym mhrif neuadd adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ar gampws Penglais nos Lun 30 Ebrill 2018.