Araith yr Arweinydd, Cynhadledd Flynyddol Hydref 2014

03/11/2014

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Gyfeillion…

Mae’n bleser o’r mwyaf i mi eich annerch o’r dref hyfryd hon sydd ag enw da yn rhyngwladol - Llangollen.

Mae aelodau Plaid Cymru wedi dod ynghyd, rhwng dau ddigwyddiad mor hanesyddol enfawr y gall fod yn anodd sylweddoli eu harwyddocâd yn y tymor hir.

Rai wythnosau’n ôl, cynhaliodd ein cyfeillion yn yr Alban y symudiad democrataidd mwyaf yn hanes yr ynysoedd hyn.

Ac ymhen ychydig fisoedd, fe aiff pobl i’r bythau pleidleisio yn yr etholiad gwirioneddol amlbleidiol cyntaf.

Mae hen system dwy-blaid San Steffan yn dod i ben. Cyflwynwyd ei derfyn gydag ymgyrch ‘ie’ ryfeddol yr Alban.

Efallai na anwyd gwladwriaeth newydd ar Fedi 18. Ond fe grëwyd democratiaeth newydd, ac y mae’n cerdded ymlaen.

Yr oedd yn brofiad rhyfeddol ymweld â’r Alban yn ystod y cyfnod cyn y refferendwm. A heddiw, rwyf eisiau talu teyrnged i Brif Weinidog yr Alban wrth iddo baratoi i adael y swydd - Alex Salmond.

Alex:

Fe wnaethoch chi ysbrydoli cenhedlaeth newydd.

Fe roesoch lais i’r mud.

Fe wnaethoch arwain mudiad gydag urddas.

Fe wnaethoch i genedl gredu ynddi’i hun eto.

Gan bob un ohonom ym Mhlaid Cymru, diolch Alex – a’r dymuniadau gorau oll i chi at y dyfodol.

Ac i sylweddoli record mor rhyfeddol yw honno, does ond rhaid i ni gymharu llwyddiannau un Prif Weinidog SNP yn yr Alban â record y tri Phrif Weinidog Llafur yng Nghymru.

Mae’r Alban yn cael ei chlywed oherwydd bod ei llywodraeth yn llais Albanaidd diamwys yn datgan yn glir dros yr Alban.

A dyw Cymru’n haeddu dim llai.

Mae Plaid Cymru a’r SNP wedi rhannu cysylltiad arbennig ers degawdau. Ac yr wyf i’n edrych ymlaen at ffyniant y cysylltiad hwnnw yn fwy fyth dan arweinydd newydd yr SNP, Nicola Sturgeon.

Bydd y gwaith y byddwn yn wneud ar ran ein dwy genedl yn hanfodol dros y misoedd nesaf a thu hwnt.

_________________________

Cyn etholiad 2010 ychydig oedd yn cytuno gyda ni fod Senedd grog yn bosibilrwydd. Ychydig oedd yn credu o ddifrif y buasai hynny’n digwydd.

Ond bu’r canlyniad – clymblaid greulon a niweidiol – yn ddifrifol iawn yn wir.

Llywodraeth alaethus heb yr un mandad gan bobl Cymru.

Mae’n debygol iawn mai senedd grog a gawn eto wedi’r etholiad nesaf. Gallai pleidleisiau – yma yng Nghymru ac yn yr Alban – benderfynu mwy sy’n dal mantol grym.

Os nad oes mwyafrif clir, bydd gan lais Cymru trwy Blaid Cymru, rôl allweddol.

Mae pobl ym mis Mai nesaf rhwng mwy o’r un fath sydd eisiau rhoi mwy fyth o rym yn nwylo elite San Steffan.

Neu bleidiau Cymru a’r Alban sydd eisiau rhoi grym yn nwylo’r bobl.

Mae Plaid Cymru yn deall fod llawer o bobl yn anobeithio wrth feddwl am barhad y status quo.

Rydym yn teimlo’r un diffyg hyder a dicter gyda’r system a sefydliad sydd wedi torri ac wedi siomi Cymru.

Rwy’n dweud hyn wrth y bob sy’n gwylio gartref:

Rydym yn deall pam fod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn eich enw yn ymddangos yn bellennig.

Dyma pam fod Plaid Cymru yn wastad wedi ymladd dros i benderfyniadau gael eu gwneud yn nes at adref – i ddod â llywodraeth adref at y bobl.

Mae’r Alban – trwy ei chryfder a’i phenderfyniad - yn brwydro i beri bod hyn yn digwydd – i wireddu’r peth – a gallwn ni wneud hynny hefyd.

Allwn ni ddim caniatáu i’r etholiad nesaf fod yn ddewis ffug rhwng pedair haen o lwyd yn nadleuon yr arweinwyr ar y teledu.

Wnawn ni ddim caniatáu i’r lleisiau amgen gael eu cloi allan - y rhai sydd â rhywbeth gwahanol i’w gynnig yn lle sefydliad methedig San Steffan.

Mae’n gwestiwn o ddemocratiaeth sylfaenol.

Fel y mae pethau, pwy wnaiff leisio’r safbwynt amgen ar gwestiynau fel cyfiawnder cymdeithasol, rhyfel, newid hinsawdd, y wladwriaeth les?

Pwy wnaiff roi’r safbwynt arall ar fudo yn y dadleuon teledu arfaethedig?

Pwy wnaiff ddweud y gwir – yma yng Nghymru, y byddai ein gwasanaethau cyhoeddus, ein GIG a rhannau o’n diwydiannau gwasanaeth yn dymchwel heb gyfraniad gweithwyr o dramor.

Pwy wnaiff siarad dros Gymru?

Dyma gyfle i bobl glywed fod dewis arall yn lle ras pleidiau’r DG at y gwaelod ar iechyd, addysg a swyddi.

Fel y mae pethau, caiff y gwir – ar y teledu – ei wyro. Fydd y gwirionedd ddim ar y teledu. A dyna pam y dylem ni fod yno.

Mae angen clywed achos Cymru.

___________________

Bydd Plaid Cymru yn rhoi her a dewis arall.

Ein dewis ni yw un seiliedig ar adeiladu ar obeithion pobl, nid chwarae ar eu hofnau.

Mae’n seiliedig ar wrando a chlywed a gweithredu ar bryderon pobl am eu swyddi, eu biliau, eu dyfodol.

Fe wyddom fod gan Gymru’r hyn sydd ei angen i lwyddo – rydym wedi gwneud hynny o’r blaen.

Fe allwn ddychwelyd i’r lle’r oeddem yn ein gorffennol balch, a bod yn arweinwyr eto.

Cenedl brysur - yn brysur gyda’i dwylo, yn greadigol gyda’i hymennydd.

Rydym eisiau rhyddhau diwydiant a menter Cymru i ffynnu a chwarae eu rhan i gael Cymru’n gweithio eto.

Mae ein cynlluniau am greu swyddi yn cynnwys cymryd 70,000 o gwmnïau allan o drethi busnes yn gyfan gwbl fel y gallant gyflogi mwy o staff.

Ac fe fyddwn yn creu 50,000 o swyddi LLEOL newydd trwy roi mwy o’n contractau cyhoeddus i fusnesau Cymreig.

Rydym eisiau creu amodau am economi ffyniannus, i adeiladu’r gymdeithas deg a ffyniannus y gwyddom ni y gallwn fod.

Ac yn gyfnewid ….

Cred Plaid Cymru y dylai ein gweithwyr gael cyflog teg am ddiwrnod teg o waith.

Dyw hi ddim yn dderbyniol fod 25% o weithwyr yng Nghymru yn cael tâl o lai na £7.65 yr awr.

Os ydych yn gweithio wythnos ddeugain awr, dylech ennill digon i fyw arno. Dyna pam ein bod yn yr etholiad hwn wedi ymrwymo i gael cyflog byw i bawb erbyn 2020 – codiad cyflog i 250,000 o weithwyr Cymru.

Nid yw’n dderbyniol chwaith y gall cyflogwyr diegwyddor ecsploetio gweithwyr mudol trwy dalu llai na chyflogau lleol.

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i ymdrin â’r triciau dianc cyfreithiol sy’n caniatau i sefyllfa fel hyn fodoli heb i neb ei herio.

Rydym eisoes wedi cyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan i sicrhau nad yw’r telerau a’r amodau yn gosod y gweithlu lleol dan anfantais mewn unrhyw ffordd.

Rydym eisiau i Gymru arwain mewn tegwch economaidd.

Bod yn lleoliad buddsoddi o werth a safon uchel lle mae amodau gwaith da yn gwneud synnwyr busnes.

Blaenoriaeth Plaid Cymru yw llunio dyfodol economaidd cynaliadwy a ffyniannus i’n gwlad.

Ac y mae’n bryd yn awr i’r Wladwriaeth Brydeinig gyflwyno tegwch ariannol hefyd.

Mae’n amser cael economi ddemocrataidd:

Mae ein hathroniaeth am economi ddemocrataidd, atebol i’r bobl a’n cymunedau, wedi ei wreiddio yn y nod o ail-gydbwyso grym a chyfoeth yn yr ynysoedd hyn.

Byddai’n golygu deddfwriaeth ar lefel y DG, i osod dyletswydd gyfreithiol ar y llywodraeth i bolisi gael ei gyfeirio tuag at lefelu cyfoeth y pen tuag i fyny.

Taenu cyfoeth yn hytrach na’i ganoli.

Byddai economi ddemocrataidd yn golygu bod buddsoddi wedi ei dargedu at ardaloedd a sectorau sydd fwyaf angen twf.

Economi ddemocrataidd sy’n ein symud ymaith oddi wrth ddibyniaeth ar wasanaethau ariannol ac yn ôl i ddiwydiant – gan greu ac arloesi mewn masnach ac allforio.

Economi ddemocrataidd sy’n sicrhau nad yw buddsoddiad mewn seilwaith yn cael ei sugno i mewn i dwll du dinas-wladwriaeth Llundain, ond yn cysylltu cymunedau a busnesau ym mhob man.

Ein heconomi ddemocrataidd, wedi ei sylfaenu ar dri philer cadarn: tegwch daearyddol, tegwch mewn amodau i weithwyr, a thegwch yn yr amgylchedd yr ydym yn greu i fusnesau cynhenid ffynnu.

Fydd neb yn cael ei adael ar ôl na’i eithrio o economi ddemocrataidd Plaid Cymru.

All patrwm busnes-fel-arfer gwleidyddiaeth ac economeg yn y DG ddim parhau.

Mae San Steffan wedi torri. Mae llymder wedi methu yng Nghymru. Mae wedi methu ym mhob rhan, bron, o’r DG.

Mae’r holl boen a’r pryder hwn wedi ei achosi yn ddiangen i bobl.

Cofiwch – fe ddywedwyd wrthom fod angen llymder er mwyn cydbwyso’r llyfrau erbyn diwedd y senedd hon.

Ond dyw’r llyfrau ddim wedi eu cydbwyso. Mae dyled y DG dros £1.4 triliwn ac yn codi bob dydd. Dyw hi ddim yn cael ei thalu. Dyw hi ddim yn lleihau.

A nawr maen nhw’n dweud wrthon ni – ac fe ddaeth tair plaid San Steffan yn ‘nhw’ erbyn hyn – yn dweud mai’r ateb i’r llymder sydd wedi methu yw mwy fyth o lymder.

Wedi blynyddoedd o golli swyddi.

Blynyddoedd o doriadau mewn cyflogau.

Crebachu gwasanaethau cyhoeddus.

Gorfodi’r sawl sy’n ddifrifol wael neu heb allu gweithio oherwydd anabledd i fynd trwy bob math o rwystrau dim ond er mwyn goroesi.

Cau neu werthu ein hasedau cymunedol.

Ein darpariaeth feithrin, ein canolfannau dydd, ein llyfrgelloedd, ein canolfannau celfyddydau, ein cefnogaeth i bobl anabl.... ac i beth?

Y DG yw un o’r gwladwriaethau mwyaf anghyfartal

Mae polisïau llymder San Steffan yn gyfrifol am y ffaith fod 70,000 o bobl yn mynd at fanc bwyd yng Nghymru llynedd.

Ac eto, addawodd Llafur sefyll cornel pobl Cymru. Lle maen nhw wedi bod?

Cofiwch, mae Llafur hefyd yn aelodau cyflawn o garfan llymder.

Dywedodd Canghellor yr Wrthblaid yn ddigon clir y bydd toriadau’r Torïaid yn troi’n doriadau Llafur os byddant yn ennill yr etholiad nesaf.

Byddwn ni’n rhoi’r flaenoriaeth i Gymru er mwyn i ni gael cydraddoldeb.

Maen nhw’n blaenoriaethu San Steffan sydd yn gwreiddio ein hanghydraddoldeb yn ddyfnach.

Dyna maen nhw i gyd yn wneud. Digon yw digon.

Mae llymder wedi methu a’r angen yn awr yw achub nid y bancwyr. Mae ein pobl yn haeddu gwell na hyn.

Mae system doredig San Steffan yn rhan o’r broblem.

Felly hefyd reolaeth ddi-dor Llafur yng Nghymru.

_____________________

Bydd Plaid Cymru yn adeiladu’r genedl hon ar gyfres wahanol o werthoedd.

Fe wnawn adeiladu economi ar gyfres wahanol o flaenoriaethau.

Rydym ninnau hefyd eisiau dileu’r diffyg.

Tydyn ni ddim am i genedlaethau’r dyfodol etifeddu camgymeriadau’r gorffennol – yn ariannol na chymdeithasol.

Ein hateb ni yw buddsoddi ein ffordd allan o’r diffyg.

Mae gweledigaeth Plaid Cymru yn canoli o gwmpas pobl a chymunedau.

Gweledigaeth o ail-gydbwyso grym a chyfoeth yn yr ynysoedd hyn.

Economi a fydd yma yng Nghymru yn rhoi terfyn ar ein dibyniaeth.

O fewn cenhedlaeth, mae Plaid Cymru eisiau creu Cymru nad yw bellach yn dioddef y gwarth o fod yn un o ranbarthau tlotaf Ewrop.

Rydym eisiau terfynu ein dibyniaeth ar arian Ewropeaidd.

Byddwn yn creu Cymru lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Lle mae ein pobl yn derbyn y gofal iechyd mae arnynt ei angen pan fyddant ei angen.

A lle caiff pob plentyn gyfle i ffynnu.

Efallai bod rhai yn credu fod dibyniaeth a thlodi yn anorfod i Gymru. Tydyn ni ddim yn derbyn hynny. I Blaid Cymru, mae Cymru arall yn bosib.

A dyna pam ein bod yn dweud fod yn rhaid i’n ffordd tuag at ffyniant gychwyn gyda Chymru yn cael ei thrin yn gyfartal.

Mewn ystryw wleidyddol, oriau cyn refferendwm yr Alban, cyhoeddodd tri arweinydd San Steffan ar y cyd na fyddent yn cyflwyno fformiwla gyllido newydd i Gymru, ar sail anghenion ein cenedl.

Welsoch chi’r symudiadau gwallgo tuag yn ôl gan ganghennau eu pleidiau yng Nghymru?

Tro pedol polisi arall yng nghynhadledd y Lib Dems.

A Llafur?

Pan roddwyd y llw honno i’r Alban, dylai Prif Weinidog Cymru fod yn sefyll cornel Cymru.

Ond yn lle hynny, roedd ein Prif Weinidog yn sefyll ochr yn ochr â Phrif Weinidog Torïaidd a’i ddirprwy, yn addo y byddai’r annhegwch yn y modd mae Cymru’n cael ei chyllido yn cael ei gloi i mewn a’i gloi i lawr.

A dyma ni yn awr yn cael ar ddeall nad dim ond cefnogi’r llw a wnaeth:

Fe roes sêl ei fendith yn llawn iddi.

Fe roes sêl ei fendith yn llawn a wnaeth e ddim trafferthu mynnu llw i Gymru. I’w genedl ei hun.

Yr unig beth yr ymladdodd ein Prif Weinidog drosto ar ran Cymru yn ystod y refferendwm hwnnw oedd dwyn arfau dinistr i ddyfroedd Cymru.

Ac fe suddodd fel taflegryn trident plwm, hyd yn oed yn ei blaid ei hun. Y fath gywilydd.

Fe wnaethant y llw honno gan wybod a derbyn y bydd Cymru ar ei cholled. Ar ei cholled yn fawr.

Er bod yr angen yma yn fwy. Dyna oedd eu dewis hwy.

Ond ein dyletswydd ym Mhlaid Cymru yw ymladd dros y fargen orau bosib i Gymru.

Os na wnân nhw newid y fformiwla i seilio ein cyllido ar angen cymharol, gadewch i ni yn hytrach sicrhau ein bod ar safle cyfartal a’r Alban.

Dychmygwch hyn.

Petai pob dyn, menyw a phlentyn yng Nghymru yn derbyn yr un cyllid y pen â phobl yr Alban, byddai ein hysgolion a’n hysbytai a’n gwasanaethau lleol yn derbyn 1.2 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn.

Pam ddylem ni gael ein trin yn wahanol?

Mae gennym setliad datganoli trydydd radd eisoes; pam dylem ni fodloni â threfniant ariannol eilradd?

Dyw’n gwneud dim synnwyr.

Ac wedi eu haddewid i sefyll cornel Cymru, pam y dylai Llafur dderbyn sefyllfa lle byddai Cymru’n cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Albanwyr?

Ers dros ganrif, ein cenedl ni oedd pwerdy’r ynysoedd hyn.

Fe wnaeth nifer fechan elwa’n fawr o’r adnoddau naturiol y treuliodd cymaint yn eu cloddio allan o’r ddaear. Rydym yn wastad wedi cyfrannu.

Rydym wedi talu cymaint a thros ein cyfran deg.

Ond wnaethom ni ddim elwa o’n cyfoeth naturiol.

Ac y mae’n bryd yn awr cydnabod ein cyfraniad hanesyddol.

Rydym wedi bod ar ei hôl hi ers gormod o amser.

Rhaid i ni yn awr sicrhau fod Cymru’n cael cydraddoldeb.

Cydraddoldeb i’n pobl.

Dyna’r maes chwarae gwastad yr ydym ni eisiau.

A’r cydraddoldeb hwnnw, y cyfle hwnnw wnaiff ganiatáu i’n cenedl ddechrau sefyll ar ei thraed ei hun.

A phetaem yn cael y maes chwarae gwastad hwnnw i Gymru – yna gallwn gefnogi Lloegr i bennu ei dyfodol hithau hefyd.

Trwy dorri’r anghydraddoldeb yn y modd mae ein cenhedloedd yn cael eu cyllido, yna gallwn ni hefyd gefnogi pleidleisiau Seisnig i ddeddfau Seisnig.

Synnwyr cyffredin yw hyn – wrth gwrs ddylai ASau Cymru ddim ymyrryd yn y modd mae’r Saeson am redeg eu GIG neu eu hysgolion neu eu cynghorau.

Yn union fel na ddylai Gweinidogion Lloegr ymyrryd mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru.

Pe na bai cyllid Cymru wedi ei glymu wrth y penderfyniadau polisi a gymerir dros Loegr, yna fe allen ni yng Nghymru, ynghyd â’n cyfeillion a’n cymdogion dros y ffin, fwrw ymlaen a’r gwaith.

Ailgydbwyso grym a chyfoeth.

Dyna ein nod.

Dyna’n brwydr ni i Gymru dros y misoedd i ddod.

Bydd Plaid Cymru yn ceisio mandad yn yr etholiad hwn i beri i hynny ddigwydd.

Lefelu’r maes chwarae yn yr etholiad hwn.

Dychmygwch y gwahaniaeth y gellid ei wneud i’ch bywyd a’r rhai o’ch cwmpas.

Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai wneud i’ch cymuned.

Trwy dorri’r clymau rhwng penderfyniadau a wneir yn Lloegr a’r arian gaiff Cymru, gallem fuddsoddi yn ein GIG ac amddiffyn eu cyllid rhag preifateiddio San Steffan, a’i enw da rhag penawdau’r Daily Mail.

Dyw hi ddim cysur i ni i weld y llanast mae Llafur yn wneud o’n gwasanaethau iechyd yn ysglyfaeth i’r wasg Dorïaidd. Mae’n digalonni’r staff. Mae’n dychryn cleifion.

A’r eironi …

Ar y naill law, rydym yn gweld y Torïaid yn pwyntio bys ac yn torri ar yr un pryd

Ar y llaw arall, rydym yn gweld Llafur yn gwadu yn hytrach na derbyn y cyfrifoldeb.

A thrwy hyn i gyd, mae rhestrau aros yn tyfu, ein gwasanaeth ambiwlans mewn dyfroedd dyfnion, a’n hadrannau brys mewn sefyllfa argyfyngus eu hunain.

Dyw cleifion ddim eisiau gwleidyddion yn chwarae gwleidyddiaeth â’u hiechyd.

Maent eisiau atebion.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi i recriwtio 1000 meddyg ar hyd a lled Cymru.

Rydym eisiau integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol, i warantu trosi diwnïad i gleifion rhwng y ddau.

Rydym eisiau i’n cleifion fanteisio ar arloesedd iechyd, mewn telefeddygaeth.

Byddwn yn ateb her salwch meddwl yn ein cymdeithas.

Ac yr ydym eisiau gweld ambiwlansys yn cyrraedd mewn pryd, ym mhob rhan o Gymru.

Bydd Plaid Cymru yn moderneiddio ac yn gwella ein GIG – i ymdrin â chalon y broblem, yn hytrach na chwarae o gwmpas yr ymylon.

Chawsom ni ddim digon o chwarae o gwmpas gan Lafur blinedig?

Chawsom ni ddim digon o gyffyrddiadau ysgafn gan lywodraeth rhy ysgafn?

Mae Cymru angen ac eisiau arweinyddiaeth.

Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol, ein cleifion, ein haddysgwyr a’n rhieni yn haeddu llywodraeth sy’n dangos arweinyddiaeth gref.

Dywedwyd llawer am lwon yn ddiweddar.

Mae gen i neges i athrawon Cymru …

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn rhoi gwerth ar y cyfamod dealledig a wnaethoch trwy ddewis eich gyrfa fel athro neu athrawes.

Wnaethoch chi ddim dewis y proffesiwn hwn i dreulio oriau yn llenwi ffurflenni a thicio bocsys i fodloni biwrocratiaid yng Ngweinyddiaeth Addysg Cymru.

Fe wnaethoch chi ddewis eich proffesiwn am i chi gredu y byddai modd i chi wneud gwahaniaeth i fywydau ein plant.

Mae’n iawn fod rhieni, disgyblion a hyd yn oed wleidyddion yn disgwyl canlyniadau da.

A than lywodraeth Plaid Cymru cewch eich barnu ar ganlyniadau – a chanlyniadau yn unig.

Fe rown ni yr amser, yr adnoddau, yr ymddiriedaeth a’r gefnogaeth sydd arnoch eu hangen i ddysgu disgyblion i gyrraedd pegwn eithaf eu gallu.

Dros y misoedd nesaf, bydd tîm fy mainc flaen yn siarad gydag athrawon ar hyd a lled ein cenedl.

I wrando ar eich barn am sut i ryddhau eich amser prin i wella safonau a chanlyniadau i’n disgyblion.

Dim mwy o fentrau, dim mwy o driciau, dim mwy o fwlio gan y llywodraeth.

Cydweithio, cydweithredu, rhannu’r nod fydd nod agwedd Plaid Cymru at roi’r cychwyn gorau mewn bywyd i’n plant.

Fe wnawn ni yn sicr fod y genhedlaeth nesaf yn byw bywyd gwell na’r ddiwethaf, o ran sgiliau, gobeithion ac ansawdd bywyd.

--

Next year, we face a UK-wide general election where Wales’ voice will be clearly heard, because support for Plaid Cymru is increasing.

Plaid Cymru MPs fight for our country, and for their communities.

I want to thank you, Team Wales in London, from the bottom of my heart: Elfyn Llwyd, Jonathan Edwards and Hywel Williams.

This is Elfyn Llwyd’s last full conference as a Member of Parliament. He is highly respected across all parties, and his achievements are too many to number.

From veterans, to victims of stalkers, over the years, Elfyn Llwyd has been there for those who needed support.

Elfyn, on behalf of all those whose lives you have improved, and on behalf of Plaid Cymru, thank you very much for everything.

People ask me – what difference can a Plaid Cymru MP really make?

Elfyn’s record, along with those of Jonathan Edwards and Hywel Williams, shows the real achievement which has touched people’s lives, in all parts of Wales and beyond.

Introducing laws on stalking, and strengthening the rights of victims.

Making the case for a fairer allocation of money for transport in Wales.

Insisting on a better fuel bargain for those in rural areas, and better prices for farmers.

Campaigning for bilingual juries and the rights of Welsh speakers in the legal system.

And leading the battle against the bedroom tax, zero hours contracts, and for fairer conditions of employment.

They are working hard to ensure that Wales has the powers it needs to succeed, and they are demanding more.

On policing, on broadcasting, on all our natural resources – they have been making the case for placing the future of Wales in the hands of the people of Wales.

And after next May, there will be a stronger team to put Plaid Cymru in a strong situation, so as to place Wales on the same level as Scotland.

--

Mae rhan allweddol o waith Plaid Cymru yn San Steffan yn rhyngwladol.

Mae cynnydd ISIL yn peri braw mewn rhanbarth sydd eisoes wedi ei brawychu.

Dylai gwersi ymyriadau milwrol Bush a Blair yno fod yn rhybudd i ni na allwn fomio ein ffordd i heddwch.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi ymyriad dyngarol rhyngwladol yn y Dwyrain Canol, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Ond ni fydd ASau Plaid Cymru yn y Senedd hon na’r nesaf ar unrhyw gyfrif yn ymrwymo i ryfel lle nad oes mandad swyddogol rhyngwladol.

Lle nad oes strategaeth weithredol na strategaeth adael glir.

Lle nad oes syniad o’r effaith ar fywydau milwyr na sifiliaid.

Lle nad oes syniad clir am sut i ennill heddwch.

Gwrthdrawiad gwleidyddol yw hwn, sydd yn galw am ateb gwleidyddol tymor-hir.

Ateb sydd yn dwyn i mewn genhedloedd, llywodraethau a chymdeithas sifig yn y rhanbarth i ddod ynghyd i weithio dros heddwch cyfiawn.

A rhaid i’r gwrthdaro presennol, a waethygwyd gan bolisïau’r Gorllewin, gael ei wynebu â dulliau diplomatig, wedi ei hwyluso gan y gymuned ryngwladol.

Ymdrech ryngwladol.

A rhaid ceisio cydweithrediad yn yr argyfyngau byd-eang eraill sy’n ein hwynebu heddiw.

Dwy felltith gwrthdaro a newid hinsawdd yw’r prif achosion fod pobl yn symud yn eu miloedd, yn mewnfudo ac yn creu ffoaduriaid.

Os ydym wir eisiau rhoi trefn ar her mudo ledled y byd, rhaid i ni fynd at y gwreiddiau.

Mae Plaid Cymru yn wastad wedi bod yn rhyngwladol ei hapêl.

Rydym eisiau i Gymru gyfrannu a gweithio gydag eraill i roi terfyn ar dlodi, i gyfyngu ar newid hinsawdd ac i ddatrys anghydfod.

Dim ond trwy gydweithredu byd-eang y mae modd gwneud hyn.

Nid yw’n dderbyniol i lywodraeth San Steffan droi ei chefn ar Ddeddf Newid Hinsawdd er mwyn parhau i neilltuo symiau enfawr am fomiau, arfau a milwyr dramor pan ddywedant nad oes digon o arian i dalu am ysbytai, ysgolion neu i helpu pobl i gael dau ben llinyn ynghyd.

Ond fe fydd yn parhau. Fe fydd y cyfan yn parhau. Hyd nes i’n pobl wneud yr annisgwyl.

Os bydd Cymru yn parhau i wneud yr hyn mae pawb yn disgwyl i Gymru wneud, a’r hyn mae wastad wedi wneud, yna allwn ni ddim disgwyl i’r canlyniadau fod yn wahanol.

Rhaid i bobl yma yng Nghymru wneud yr annisgwyl yn awr.

Gadewch i ni ddysgu o’r hyn wnaeth pobl yr Alban.

Peidiwch â chymryd fy ngair i yn unig.

Dim ond rai wythnosau’n ôl y myfyriodd arweinydd plaid arall am yr Alban a dweud, ac yr wyf yn dyfynnu, "peidiwch â synnu os daw’r Cymry i’r casgliad mai dim ond trwy bleidleisio i’r cenedlaetholwyr y bydd pethau’n newid."

Allwn i ddim bod wedi dweud yn well fy hun.

Bydd pethau yn newid yng Nghymru yn unig pan fydd gan Blaid Cymru holl rym Cymru y tu ôl i ni.

Os bydd pobl yn parhau i wneud yr hyn a ddisgwylir, gallant barhau i ddisgwyl yr hyn maent yn wastad wedi ei gael …… Penderfyniadau gwleidyddol gwael a haerllug nad ydynt o les i Gymru.

Penderfyniadau fel yr un am yr M4.

Fe arweiniais i fy nhîm allan o drafodaethau cyllideb gyda Llywodraeth Cymru am nad oedd modd i mi gefnogi penderfyniad i aberthu agwedd Cymru-gyfan at fuddsoddi.

Allen ni ddim cefnogi prosiect sydd â chost mor uchel i’r pwrs cyhoeddus a’r amgylchedd am cyn lleied o fudd.

Gadewch i mi ail-adrodd heddiw.

Nid yw’n dderbyniol gwastraffu biliwn o bunnoedd o arian benthyg, clymu dwylo’r llywodraeth am ddegawd o leiaf ar draffordd newydd yn un gornel o’n gwlad.

Dylai Cymru gyfan, y tu hwnt i goridor yr M4, deimlo mantais y ffaith y gall ein llywodraeth o’r diwedd fuddsoddi yn seilwaith ein cenedl.

Mae ein cymoedd, y gorllewin, y gogledd - ein trefi gwledig a’n canolfannau trefol oll yn teimlo wedi eu hesgeuluso ers i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i’w hymrwymiad i Gymru’n Un yn 2011.

Dylai’r llywodraeth Lafur wrthdroi eu penderfyniad i afradu cyllideb ein cenedl ar draffordd nad oes llawer o bobl eisiau.

Dylent fuddsoddi yn hytrach yn ein seilwaith cenedlaethol ym mhob cwr o’r wlad.

Ond wnân nhw ddim.

Ac y mae hynny yn amlygu’r gwahaniaeth arall rhyngom:

Dyna maen nhw’n ddweud. Rydym ni’n ei olygu.

Sefyll cornel Cymru? Dyna maen nhw’n ddweud. Rydym ni’n ei olygu.

Gwrthwynebu toriadau Torïaidd? Dyna maen nhw’n ddweud. Rydym ni’n ei olygu.

Ailddosbarthu cyfoeth? Dyna maen nhw’n ddweud. Rydym ni’n ei olygu.

Mwy o bwerau i Gymru? Dyna maen nhw’n ddweud. Rydym ni’n ei olygu.

Dweud mae Llafur. Mae Plaid Cymru’n ei olygu.

Ac fe ddown ni a’n llywodraeth gartref fel bod gennym yr arfau i gyflwyno cyfiawnder cymdeithasol a ffyniant i’n cymunedau.

I mi – a dyw hyn ddim yn gyfrinach o gwbl – nid datganoli yw diwedd y daith i Gymru.

Rwyf eisiau ein gweld yn dod i’r goleuni un dydd fel gwlad annibynnol.

Rwyf eisiau i Gymru ymuno â’r gymuned ryngwladol ac adeiladu dyfodol sydd yn gyfiawn, ffyniannus a rhydd.

Rwyf eisiau i’m cenedl yr hyn mae gwledydd eraill yn cymryd yn ganiataol sy’n normal.

Ac fe fyddaf yn wastad – yn wastad – yn mynnu mai’r ffordd i ni gael y gorau o bawb a’r gorau i’n gilydd yw pan fydd ein tynged yn ein dwylo ein hunain.

Rwyf eisiau gweld Cymru ar ei gorau.

Fydd hyn ddim yn digwydd dros nos ac yn y pen draw, chi biau’r dewis.

Bydd taith ein cenedl yn wastad yn nwylo pobl Cymru.

Ond fe fydd yn digwydd.

Mewn blynyddoedd, nid degawdau.

Yn y cyfamser, gadewch i ni fanteisio ar y cyfle i ddangos fod gan Blaid Cymru yr hyn sydd ei angen i drawsnewid Cymru.

Gadewch i ni uno y tu ôl i’r nod o adeiladu gwleidyddiaeth newydd sy’n gweithio i Gymru.

Gadewch i ni adeiladu gwlad sy’n ddigon cryf, yn ddigon ffyniannus ac yn ddigon teg i bawb lwyddo.

Bob blwyddyn yn y dref hon, Llangollen, daw pobl o bedwar ban byd i ymgasglu a chymryd rhan yn y cyfnewid diwylliannol mwyaf yn y byd.

Heddiw yn y neuadd hon, mae pobl sy’n credu fod Cymru arall yn bosib wedi ymgasglu.

A thros yr wythnosau nesaf, mae gennym oll ran i’w chwarae i ddwyn i mewn cymunedau’r genedl hon i gychwyn ar y cyfnewid democrataidd mwyaf a welodd Cymru erioed.

Bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio dros Gymru.

A thrwy weithio gyda’n gilydd, fe wnawn ni, bobl Cymru, adennill tynged ein cenedl.

Diolch yn fawr

Ffynnonell: Gwefan Plaid Cymru

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net