Agor oriel gelf newydd yn Nyffryn Conwy
Categori: Amgylchedd, Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Cafodd Galeri Hafod yn Nyffryn Conwy ei hagor yn swyddogol ddoe gan y cyflwynydd teledu a’r naturiaethwr, Iolo Williams.
Lleolir y galeri newydd yng Nghanolfan Grefftau Bodnant ger Gerddi Bodnant, a bydd yn arddangos gwaith gan ffotograffwyr tirweddau a ffotograffwyr cyfoes blaenllaw.
Mae’r ffotograffydd Paul Kay o Lanfairfechan, sy’n adnabyddus yn anad dim am ei waith tanddwr, wedi cydweithio â’r ffotograffydd tirweddau o Gaergybi, Graham Scott-Taylor, sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar wedi 10 mlynedd yn yr Unol Daleithiau i sefydlu’r busnes newydd.
Harddwch rhyfeddol
Dywedodd Paul Kay: “Mae’r harddwch rhyfeddol sydd ar gael i’w ddarganfod yn nhirweddau Dyffryn Conwy ac Eryri yn ysbrydoli artistiaid ers canrifoedd. Rydym ni’n dymuno adeiladu ar y dreftadaeth gyfoethog hon."
"Bydd Galeri Hafod yn ddathliad gweledol o harddwch natur ac ysbryd Gogledd Cymru a thu hwnt. Ble gwell i wneud hynny nag ym Modnant? Mae Bodnant a’i ardd yn fyd-enwog ac mae wedi’i leoli mewn tirwedd odidog, ac mae’n ddeniadol i bobl leol ac ymwelwyr o bob cwr o’r byd fel ei gilydd."
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru